<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogio Diog

4.5.07

Dwi heb fod yn diweddaru'r blog yn ddiweddar, ond os ydych wedi bod yn picio draw yma pob hyn a hyn ar yr off chance (chi rili angen tanysgrifio i wasanaeth darllen porthiant fel Bloglines), efallai eich bod wedi sylwi ar y dolenni newydd yn y golofn dde o dan y teitl 'Rhy ddiog/prysur i bostio am'. Beth ydi hwn yw gwefannau dwi wedi eu nodi ar fy nghyfrif del.icio.us ac wedi eu tagio gyda'r tag 'diogblog'.

Dwi ond wedi dechrau defynyddio del.icio.us yn ddiweddar, doeddwn ddim yn siwr beth oedd o'n dda i'n iawn nes i mi agor cyfrif fy hun. Yn syml mae'n ffordd dda o gadw 'nodau tudalen (bookmarks) i wefannau diddorol mewn un lle, sy'n fanteisiol iawn os ydych yn gweithio ar fwy nag un cyfrifiadur. Hefyd os ydych yn arbed nodau ar eich porwr, mae bron yn amhosib dod o hyd i rai pan rydych wedi arbed nifer fawr ohonynt. Gyda del.icio.us, rydych yn gallu tagio pob dolen, sydd run fath a'u categoreiddio. Mae del.icio.us yn rhywbeth sy'n cael ei alw'n social bookmarking, dyma ddifiniad Wikipedia:
With the advent of social bookmarking, shared bookmarks have become a means for users sharing similar interests to pool web resources, or to store their bookmarks in such a way that they are not tied to one specific computer or browser. Web-based bookmarking services let users save bookmarks on a remote web server, accessible from anywhere. Examples include del.icio.us , Google bookmarks , Yahoo Bookmarks and Windows Live Favorites.
Mae modd tanysgrifio i weld beth sydd gan eraill yn eu rhestrau nodau nhw. Gelwir hyn yn network, ac mae'n ddefnyddiol iawn ffordd da o ddarganfod dolenni gan pobl rydych yn debygol o fod yn rhannu'r un diddordebau â nhw. Ar hyn o bryd dwi'n edrych ar (stalkio fyddai eraill yn ei alw) nodau tudalen 9 person arall, ac mae 4 ohonynt yn edrych ar un fi.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 am

1 sylw:

Great blog I enjoyed readding
sylw gan Anonymous Noah, 12:54 pm  

Gadawa sylw