Pleidlais tramorwyr
8.2.07
Dwi wedi bod yn dilyn blog gwleidyddol o'r Alban o'r enw J. Arthur MacNumpty, sydd er gwaetha'r enw yn un diddordol a difrifol. Hynt a helyn Senedd yr Alban sydd cael ei brif sylw, ond yn ei bost diwethaf mae Will yn cyfeirio at etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, gan eu bod yn defnyddio sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), ac hefyd gan fod nifer o dramorwyr yn gymmwys i bleidleisio. Rhagwelir y bydd 6,000 yn pledilesio, 2,000 ohonynt yn Bwyliaid (er bod hyd at 20,000 o Bwyliaid yng Ngogledd Iwerddon).
Yma yng Nghymru, ychydig iawn o sôn sydd wedi bod am effaith y bleidlais dramor (heblaw efallai effaith y 750,000 o Saeson sy'n byw yma!). Mae poblogaeth Pwylaidd mawr yn byw a gweithio yn Wrecsam a sir Gaerfyrddin, dau ardal ble gall newidiadau fod wedi'r etholiad. Does neb fel tasen nhw'n rhoi llawer o siawns i John Marek gadw ei sedd yn Wrecsam, ond mae wedi bod yn mynd ar ôl y bleidlais Pwylaidd yno, a hyd yn oed wedi mynd mor bell ag agor clwb Pwylaidd o dan ei swyddfa.

pleidleisio, cymru