<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tynnwch eich sannau lan

9.2.07

Rhaid dweud, o'r tri clwb proffesiynol yng Nghymru, Dinas Caerdydd sydd wedi dangos y mwya o barch tuag at yr iath Gymraeg, er mae'n sicr bod gan Wrecsam ac Abertawe ganran uwch o'u cefnogwyr sy'n siarad Cymraeg. (Mae sôn bod pethau am newid yn Wrecsam - mae cyhoeddiadau Cymraeg i'w clywed rwan)

Efallai mai dylanwad Sam Hamman a'i freuddwyd y byddai'r Adar Gleision yn dod yn dîm Cymru cyfan a ddechreuodd pethau, ond dim ots. Roedd yn braf cael clywed cyhoeddiadau dwyieithog ar yr uchel-seinydd, gweld arwyddion dwyieithog yn y stadiwm ac un dolig bu Sarah mor lwcus a derbyn crys-T o siop y clwb gyda bathodyn yr Adar Gleision a'r geiriau 'Hoffi Bywyd, Caru Cymru' (neu debyg) arno yn Gymraeg a Saesneg.

A'r Blogdroed mae llun o sannau'r clwb, ble mae enw'r dinas yn Gymraeg arnynt, ond yn anffodus, mae'nt wedi anghofio'r 'D' yn y gair 'Caerdydd'. Wrth gwrs mae eisiau canmol pob ymdrech, ond mae hwn yn mynd syth mewn i'r casgliad Scymraeg.

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:26 am

3 sylw:

Collector's item yw y rheiny nawr, tybed.
sylw gan Blogger Chris Cope, 5:04 pm  

Dydi'r sylw yna ddim yn un teg Rhys. Caneuon Cymraeg eu hiaith yn unig sy'n cael ei chwarae ar y Cae Ras cyn gemau erbyn heddiw, gyda pytiau o Gymraeg yn y rhaglen.
Dwnim am ddarpariaeth Caerdydd, ond allai fentro nad ydyw cystal a hynny.
sylw gan Blogger Gareth, 11:42 am  

Sylwais i dydd Sadwrn mai caneuon Cymraeg gafodd eu chwarae dydd Sadwrn. Dwi ddim yn mynychu'r Cae Ras i fod yn ddigon siwr o hyn, ond dwi'n amau mai er 'budd' Caer oedd hyn dydd Sadwrn. Efallai (a gobeithio) mod i'n anghywir.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:28 pm  

Gadawa sylw