Fy lluniau mewn print
6.2.07
Rhai misoedd yn ôl, cefais gais i ddefnyddio lluniau o'm cyfrif Flickr ar gyfer gwefan teithio Schmap, yna rhai wythnosau'n ôl cefais gais ychydig yn rhyfedd i ddefnyddio fy llun o iogwrt Llaeth y Llan mewn brochure ar gyfer Twrisitiaeth Gogledd Cymru.
Pan ddychwelais i'm gwaith ddoe, roedd copi o Compact History of Welsh Heroes: Llywelyn Bren ar fy nesg gan awdur y llyfr Craig Owen Jones. Tra'n gwneud gwaith ymchwil tuag at y llyfr fe siaradais â Craig ar y ffôn, roedd yn holi am unrhyw gofebau lleol am Llywelyn Bren. Holias ambell berson lleol a fyddai'n gwybod yn well na fi, ond na oedd yr ateb. Roedd Craig hefyd angen llun o gastell Caerffili a chastell Caerdydd a chytunais dynnu llun o'r ddau iddo (gweler isod). Mae'r ddau lun i'w gweld ar glawr cefn y llyfr.
Dwi heb ddechrau darllen y llyfr eto, gan mod i ar ganol darllen Behind the Curtain: Football in Eastern Europe a gefais nadolig gan Sarah.

flickr, hanes, cymru, caerdydd. caerffili, darllen, llyfrau
Generated By Technorati Tag Generator
Generated By Technorati Tag Generator
4 sylw:
sylw gan Robert Humphries, 5:27 pm
Mae erthygl dda am Llywelyn Bren ar wefan Menter Caerffili
,
Ydi o yn un o'r rhain?
(Os ti'n dewis 'other' yn hytrach na 'Anonymous' wrth bostio, galli di roi dy enw mewn blwch)

Debyg fod y fenter wedi dileu'r erthygl.
Tynnais sawl llun o'r castell yn ystod yr eira, dwi heb drosglwyddo'r lluniau o'r camera i'r we eto, ond gweler llun o fy ffôn - http://rhys-gerallt-owen.fotopic.net/p38605767.html

Fe welais i hefyd dy sylwadau ar fy wefan flickr, ond dw i ddim wedi gadael ateb eto. Diolch am dy awgrymiadau.