<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Arbrofi gyda hCalendar

22.11.06

November 25th 10am, 4pm 2006Ffair Nadolig Menter Iaith Caerffili— at Llancaiach Fawr
Bydd Menter Iaith Sir Caerffili yn cynnal ffair Nadolig yn lleoliad prydferth Maenordy Llancaiach Fawr. Dyma gyfle i brynnu anrhegion a chynnyrch Cymreig, gan osgoi prysurdeb y stryd fawr.

This hCalendar event brought to you by the hCalendar Creator.


Oes rhywun yn gwybod beth yw Microformats? Mae'n rhy dechnegol i fi, ond mae'r hCalendar [creu côd yma] yn edrych fel y math o beth hoffwn ar fy mlog Dysgwyr De Ddwyrain. Dwi'n chwilio am rhywbeth i adeiladu calendr i fi fy hun gan restru digwyddiadau dwi'n blogio amdanynt mewn un man taclus ac yn nhrefn dyddiad. Dwi wedi ceisio defnyddio Upcomimg.org yn y gorffennol, ond mae'n tipyn o ffaff dweud y gwir.

Dwi wedi darganfod post ar flog sy'n trafod hCalendar, sydd hefyd yn cyfeirio ar Eventful, AirSet a Google Calendar. Efallai bod rhain yn fwy addas i beth dwi eisiau. Oes rhywun yn gwybod os ydi rhain yn eich galluogi i greu côd all gael ei ludo ar eich gwefan?
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:15 am

5 sylw:

Mae gen i syniad am be ti'n siarad. Nid yw Microformats yn rhy annodd i'w deall, markup ydi o yn hytrach na rhaglennu.

Nai daro ebost ar ol darllen chydig mwy.
sylw gan Blogger Mei, 4:44 pm  

Dod ar draws y peth heddwi wnes i ar flog Collylogic yr awgrymaist sbelen yn ól.

Dwi wedi bod yn chwarae gyda Goolge Calendr heddiw, gall ateb fy ngofynion unai drwy jyst bod a dolen syml at dudalen calendr 'D D Dn' neu efallai nai lwyddo mewnosod html y calendr ar fy mlog rhywsut (ond heb allu 'generatio'r' cod eto)

Sylwais dod yna esiamplau pellach o gôd ar y wiki microformats.

Wedi i mi bastio'r 'hCalendar event' uchod ar fy mlog, ydi o unrhyw werth i unrhywun - h.y. oes na rhyw ffordd hawdd i rhywun ei glicio neu rhywbeth fel ei fod yn mynd yn syth mewn i'w calendr nhw'n rhywle?

Nid dyma be dwi'n edrych am, mond rhywbeth wnaiff greu tabl bychan yn fy ochrgolofn, ond byddai rhywbeth felly'n cwl.

O edrych ar demo Eventful (neu AirSet - dwi'm yn cofio) mewn na fodd i rhywun arall copio digwyddiad o'm calendr i yn hawdd i'w calendr Google/Yahoo/bethbynnag nhw gyda un clic.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:01 pm  

Google Calendar > colofn chwith > My Calendars > click ar y drop down wrth dy galendar.

Dewis Calendar Settings.

Adran Calendar Address > clicio ar y botwm HTML glas.

Yn y popup > clicia ar configuration tool.

Byddi'n gallu ffidlan efo settings y calendar ar y dudalen nesaf (hyd a lled ayyb) a bydd google yn generatio'r côd i ti i'w roi ar y blog.
sylw gan Blogger Mei, 10:02 am  

Bues i'n trio hynny ddoe, dilynais pob cam a gwasgu 'up-date URL' ond deos dim côd yn ymddangos yn y gwaelod am ryw reswm.

Wyt ti'n gwybod os mae URL fy nghalendr Google sydd eisiau yn y blwch cyntaf 'Google Account Address'? Dwi'n trio ffeindio esboniad ar y tudalen help.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:05 am  

Wyt ti wedi gosod y calendr i public sharing? Gellai'm meddwl am ddim arall.

Os ydi'r url yn y bocs cyn i ti ddechrau ei bersonoleiddio, fedri di gopïo fo a newid y gosodiadau dy hun yn yr url.

Ydi JavaScript i ffwrdd gen ti? (er dylai weithio hebddo)

<iframe src="http://www.google.com/calendar/embed?src=XXXgroup.calendar.google.com&title=Mei&height=614" style="border-width:0" width="220" frameborder="0" height="614"></iframe>
sylw gan Blogger Mei, 11:58 am  

Gadawa sylw