<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Murmur - blog Canolfan Bedwyr

27.11.06

Dyma ddisgrifiad o'r blog Murmur

Mae gan bawb eu cyfrinachau. Neu’n hytrach, mae gan bawb ddau fath o gyfrinach. Y math cyntaf yw’r rhai na fedrir son amdanynt i neb, y pethau hynny y byddai erchyllterau lu yn digwydd o’u datgelu. Chewch chi ddim o’r rheina ar y blog hwn.

Mae’r ail fath o gyfrinach - y cyfrinachau agored - yn llawer mwy diddorol. Y rhain yw’r math o gyfrinachau medrwch chi eu rhannu. Y rhai sy’n sôn am y pethau sydd ddim yn gyfan gwbl gyhoeddus, ond eto na fyddai na ffrind na chytundeb yn cael eu colli o’u datgelu. Pethau fel yna y byddwn ni yn murmur amdanyn nhw fan hyn.

Y ni, gyda llaw, yw Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru Bangor. Ni yw’r rhai sy’n datrys enwau lleoedd, sy’n safoni termau newydd, sy’n rhoi sialens i’r byd, sy’n cael cyfrifiaduron i siarad Cymraeg, ac sy’n creu campwaith a hanner (yn ôl eraill).

Mae gwthio’r Gymraeg i fannau lle na fu hi erioed o’r blaen yn hynod gyffrous (wel, rydyn ni o’r farn ei bod hi’n gyffrous ‘ta beth). Felly, gobeithio, bydd digon o furmur fan hyn. Yn y ffordd orau bosib, wrth gwrs.

.... yn ôl Rhys, sy'n gweithio i Ganolfan Bedwyr.

Mae yn Gymraeg yn bennaf, ond mae rhai pyst yn ymddangos yn Saesneg hefyd. Dwi ddim yn gwybod os ydynt yn bwriadu cyhoeddi pob post yn ddwyieithog. Mae'n bwysig yn fy marn i bod bod cymaint o bobl a phosib yn dod i wybod am y gwaith mae'r uned yn wneud.

, , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:28 pm

2 sylw:

Ti yw cawr darganfod blogiau Cymraeg newydd :)

Os cei di gyfle, elli di olygu'r cofnod yma? Fe wnes i newid rhai dolenni o fewn cofnod cyntaf Murmur dros ginio. Doedd dim o'i le ar yr hyn oedd yno'n barod, ond dyma benderfynu rhoi dyledus barch i rai o'r blogwyr sydd wedi dweud pethau neis amdanon ni yn y gorffennol.

Mae'n fwriad gyda ni greu cofnodion ym mha bynnag iaith neu ieithoedd sy'n berthnasol i'r cofnod, gyda llaw...
sylw gan Blogger Rhys, 3:42 pm  

Diolch am y clod :-)

Dwi wedi golygu'r cofnod rwan. Yn rhyfedd ddigon, ddois i ddim ar draws y blog drwy fy nulliau arferol, ond fe anfonodd Dewi e-bost atai, a sylwais ar gyfeiriad y blog ar ddiwedd llofnod ei e-bost.

Oeddech yn bwriadu lawnsio'r blog yn swyddogol, ei ychwanegu at Blogiadur/Welshblogs.com, neu wnaethoch chi feddwl, "pah, bydd Rhys Wynne yn siwr o ddod ar ei draws o cyn bo hir"?

Edrychaf ymlaen i ddarllen mwy.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:53 pm  

Gadawa sylw