<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ynni amgen ar raglen Ffermio

17.11.06

Dwi ddim fel arfer yn gwylio Ffermio, ond pan oeddwn gartref gyda'm rhieni nos Lun, roedd ymlaen. Roedd rhaglen nos Lun yn ddifyr gan ei fod yn dangos gwahanol eisiamplau o ffermwyr yn cynhyrchu ynni eu hunain.

Roedd un gyda melin wynt ac yn gwerthu'r ynni dros ben i'r grid cenedalethol, ac un arall gyda dwy felin ddŵr. Roedd wedi costio £100,000, ond roedd yn cael £15,000 y flwyddyn o werthu trydan ymlaen.

Ar y noson hefyd bu cyfweliad gyda cwmni Solarfit o ardal Rhydaman sy'n gosod paneli solar.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:54 am

0 sylw:

Gadawa sylw