<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cymru v Liechtenstein (yn Wrecsam 14.11.06)

13.11.06

Dechreuad gwael i'm taith i'r gogledd gyda'r car ddim yn dechrau bore ma, ond wedi i mi ei wthio i garej gyfagos, ymddengys mai mond angen plwg newydd neu ddau oedd angen (ffew!)

Er mai gêm gyfeillgar yw hi a tydi'r gwrthwynebwyr ddim yn ddeiniadol ofnadwy, dwi wir yn edrych ymlaen i wylio Cymru a chael sefyll ar y kop. Mae awyrgylch marwol stadiwm y mileniwm yn ddigon i roi rhywun oddi ar wylio pêl-droed am oes.

Mae'r tocynnau wedi eu prisio'n rhesymol iawn, a credaf y gallwch dalu ar y gât at y noson (ond gwell gwneud yn siwr o flaen llaw). Dwi'n cwrdd a rhai pobl yn y Lager Club o flaen llaw, dwedwch helo os chi o gwmpas.

(Gobeithio bod fi wedi cael lleoliad y gêm yn gywir!)
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:24 pm

1 sylw:

Ar ôl ein sgwrs am ti a cheir, wy'n siŵr yr oedd y mecanic yn hapus iawn i dy weld y bore 'ma.
sylw gan Blogger Chris Cope, 1:43 pm  

Gadawa sylw