<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Don't you know who I am?

10.11.06

Mae Luistxo'n meddwl mod i wedi dod yn seleb lleol yn sgil cyfieithu Tagzania (hyd yn oed wedi i mi lwyddo cam-deipio ei enw), ond mewn gwirionedd, dwi'n seleb yn barod (wel, rhyw fath).

Yn ôl modryb fy nghariad, fel welodd gwr ei merch hi fi ar deledu Iwerddon rhai wythnosau'n ôl, yn cymeryd rhan mewn cwis dafarn. Tua dwy flynedd yn ôl, cefais wahoddiad gan Acen i gymeryd rhan mewn cwis dafarn Cymraeg, gan fod criw teledu Globe Trekker eisiau gweld rhywbeth 'unigryw'.
Dwi ddim yn cofio llawer am y cwis, heblaw bod Geraint ar fy nhim i, bod ni wed cael peint am ddim a bod y cwis feistres Jenny Ogwen yn lysh-gachu.

Hefyd, rhai wythnosau'n ôl reodd neges ar fy ffôn symudol gan ymchwilydd Eye on Wales, eisiau siarad a fi am fy mlog Saesneg. Dyma fi'n ei ffonio hi yn ôl dim ond i ddeall mai eisiau rhif ffôn blogiwr arall oedd hi - wel y fath cheek!

(yn ôl Chris, mae'r rhaglen am flogio ymlaen ar Radio Wales heno)


Golygu.

O wel, os nad yw Radio Wales eisiau fi, mae'r Gwyddelod yn licio fi. (Dwi'n meddwl) roedd Tagzania a chyfieithiad fi (a Mei) yn cael ei drafod ar raglen 'technoleg newydd' mewn Gwyddeleg o'r enw An tlmeall (Ar yr ymylon) - (gwrandewch ar y podlediad).
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:16 am

4 sylw:

Oi! Dyna'r tro ola i fi helpu chdi allan. Fame gone to his head go iawn... ;-)
sylw gan Blogger Mei, 4:31 pm  

Sori, dwi ond yn ymateb i sylwadau gan A list bloggers o hyn ymlaen

Mi wnes i ddweud wrth y gohebydd bod 2 ohonom wedi gweithio ar Tagzania Cymraeg, fi'n cyfieithu a ti'n gwiro, ond fe adawod o hynny allan (wir yr) :-)

Ti'n cael cydnabyddiaeth (haeddianol) yma ac yma.

Sut mae'r bych?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:34 pm  

Wrth gwrs!

Brychan yn neud yn dda diolch, mynd yn rel ffati. Ond dio dal ddim yn dangos diddordeb mewn html...
sylw gan Blogger Mei, 3:53 pm  

Hei Rhys. Ia bai fi oedd o. Roeddwn yn gwybod bod ti gyda manylion cysylltu Chris felly mi dwedes i hi i galw ti. Dywedodd i mi bod hi'n teimlo wael amdano fo.

Gweld ti yn y gem pnawn ma',
Alun
sylw gan Anonymous Anonymous, 10:10 am  

Gadawa sylw