<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cofio Red Wedge

9.11.06

Ar hyn o bryd ar maes-e mae dadl (beth arall) am ddoethined CymruX (mudiad ieuentcid Plaid Cymru) o ddefnyddio Glyn Wise i annog pobl ifanc i bleidliesio (ac i bleidleisio dros y Blaid).

Clywais ddechrau rhaglen ar Radio 4 heddiw o'r enw Red Wedge: The Thin End. Yn ôl wikipedia, Red Wedge oedd...
.. a collective of British popular musicians who attempted to engage young people with politics in general, and the policies of the Labour Party in particular during the period leading up to the 1987 general election, in the hope of ousting the Conservative government of Margaret Thatcher.

Fronted by Billy Bragg (whose 1985 "Jobs for Youth" tour had been a sort of prototype for Red Wedge), Paul Weller and The Communards (Jimmy Sommerville mainly) they put on concert tours and appeared in the media, adding their support to the Labour Party campaign.
Doeddwn i heb glywed am Red Wedge tan yn ddiweddar wrth darllen erthygl yn rhywle am gig yn Aberhonddu o dan faner Red Wedge, ble cymerodd y band Datblygu ran.

Roedd cyfweliadau gyda nifer fawr o'r artisiaid a gymerodd rhan, Billy Bragg y trefnydd a Neil Kinnock (*poer*), sef arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd. Os deallais yn iawn, daeth yr enw o'r darlun gan El Lissitzky.

Efallai roedd y gigs yn llyddiannus, ond fel y gwyddom, ni lwyddwyddodd Llafur i drechu'r Ceidwadwyr yn yr etholiad nesaf. Fydd ymgais Plaid Cymru i drechu Llafur gyda chymorth seleb o'r cach-raglen Big Brother yn fwy llwyddiannus?

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:23 am

7 sylw:

Dwi'n cofio Red Wedge yn iawn. Ar y tro, ro'n nhw'n weld fel 'very worthy' ac, i ddefnyddio'r term modern - PC iawn. Naethon nhw ddim argraff mawr arna i ar y tro - ond ro'n i'n ifanc iawn, a dwi erioed bod ffan mawr o Bragg, Weller, The Communards, ayyb.

Dwi ddim yn meddwl bod hi'n posibl cymharu â Glyn Wise, rili - sdim yr un grafitas gyda fe, fel cafodd artistiaid fel Billy Bragg. Cofiwch, cafodd Billy Bragg tipyn o reputation o'r dechrau fel 'protest singer' (in the mold o Bob Dylan), a mae hi'n posib hefyd i weld yr un perthynas â gwleidyddiaeth yn y gwaith o Weller, a'r Communards. Hyd yn hyn, dyn ni ddim wedi weld lot o ddiddordeb (neu gwybodaeth chwaith) gan Glyn yng ngwleidyddiaeth, oni bai am ei cariad at yr iaith Cymraeg, a rhai datganiadau eitha vague i neud â annibyniaeth. I ddweud y gwir, dwi'n meddwl taw Plaid Cymru yw barking up the wrong tree...
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:11 pm  

Dwi ddim yn meddwl bod cynharhu'r unigolion yn deg chwaith, ond ymgais i ddefnyddio ffugyrau poblogaidd i ddylanwadu ar batrymau pleidleisio ydi'r ddau beth.

Mae dipyn o insult dweud y gwir bod pleidiau'n meddwl bydd pobl yn pleidleisio drostynt oherwydd bod rhywun 'enwog' am wneud - mae'n awgrymmu na allent feddwl dros eu hunain. Beth ddigwyddodd i'r syniad o ddenu pleidleisiau drwy gynnig polisiau sy'n mynd i apelio at bobl?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:39 pm  

Os fysa pawb yn gallu pleidleisio drwy yrru tecst sa’ mwy o bobol yn poeni am etholiadau.

Dydi Seleb’s fel Glyn a gwleidyddiaeth ddim yn cymysgu... nawr, tasa David Hasslehoff 'di dysgu Cymraeg a bod yn wyneb i ymgyrch Plaid Cymru swn i’n 'impressed' iawn!
sylw gan Blogger Melys, 4:14 pm  

Os allwn i ymuno â'r drafod, mae gwleidyddiaeth ac adloniant yn cymysgu llawer yn yr UDA. Cyn yr etholiadau arlywyddol dwy flynedd yn ôl, fe geson ni alwad ffôn (wedi ei recordio) o'r actor Jake Gyllenhaal. Ac ar y un pryd roedd Bruce Springsteen yn chwarae cyngerdd mewn rali John Kerry ym Madison. Yn y misoedd diwetha, fe ymgyrchodd Michael J. Fox, sêr Back to the Future, ar ran y blaid Democratiadd yma yn Wisconsin – oherwydd ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson's ac o blaid mynd ymlaen efo "stem cell research" (beth ydy hyn yn y Gymraeg?). Diddorol iawn ydy bod y mwyafrif o sêr ffilm a theledu yma'n cefnogi achosion adain-chwith neu yn gefnogwyr amlwg y Democratiaid. Mae rhai Gweriniaethwyr yn beirniadu hyn, yn dweud na ddylai pobl enwog siarad mâs yn erbyn y ryfel ayyb. Wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn barod i ddweud "cau dy geg" i ryw selebriti o'u plaid nhw - er enghraifft Arnold Schwarzenegger neu y diweddar arlywydd a seren y ffilm "Bedtime for Bonzo," Ronald Reagan.
Beth yn bynnag, dw i'n gobeithio bod pobl yn pleidleisio dros eu hegwyddorion, nid i ddilyn enghraifft rhyw berson enwog.

Am pwnc arall, dw i newydd ddarllen bod y nifer uchaf o Americanwyr ifanc ers ugain mlynedd wedi pleidleisio yn yr etholiadau echddoe. Y mwyafrif ohonyn nhw yn erbyn Bush a'i ryfel. Dw i'n siwr roedd y bosibilrywdd o gael eu hanfon tramor i frwydro rhyfel di-anghenrheidiol yn chwarae ar eu meddyliau nhw.
sitebr/>A>
(Esgusodwch y Gymraeg, gyda llaw.)
Roeddwn i'n golygu dweud bod MJ Fox yn "seren" nid "sêr," wrth gwrs!
Dwi ddim yn erbyn pobl enwog yn defnyddio eu henwogrwydd i hyrwyddo eu credodau, byddwn i'n gwneud yr un peth yn eu lle nhw. Ond mae gwahaniaeth rhwng uniogolion enwog yn ceisio annog trafodaeth, a stynt di-sylwedd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:15 am  

Dw i'n cytuno 100%. Dw i'n cyfarwydd â Glyn Wise trwy weld rhai pethau Cymraeg ar S4C ar y we, neu glywed amdano ar C2 a.y.y.b. Dw i'n gwybod, tipyn o "snob" ydw i mewn materion diwylliannol, ond does gen i mo amser i'w wastraffu mewn gwylio "cach-raglenni" fel "Y Brawd Mawr," -- mae 'na fersiwn Americanaidd o'r peth wrth gwrs.
Dw i'n gwybod bod Glyn yn boblogaidd nawr, ond efallai mae e wedi cael ei 15 munud o enwogrwydd. O'r tipyn bach yr ydw i'n gwybod amdano, dydw i ddim yn ei weld fel enghraifft da o Gymro ifanc, neu arweinydd i'r Cymry.

Gadawa sylw