<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pam na ddwedodd neb wrtha i?

3.11.06

Yn ôl Aberystwyth Conservative Future, mae'n cŵl i fod yn Geidwadwr.

Rhag ofn nad ydych yn credu'r peth, dyma lun o Craig Williams, ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer fy etholaeth.

(dwi ddim y deliaf fy hun, ond siawns y gallai fod wedi dod o hyd i lun gwell!)
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:16 pm

28 sylw:

Mae John Major Spitting image yn llamu i'r meddwl...
sylw gan Blogger Mei, 3:15 pm  

Mae Craig yn ymgeisydd da iawn. Mae e'n deall yr ardal ac y mae'n boblogaidd.
Y mae hefyd o blaid yr iaith Gymraeg.
sylw gan Anonymous Anonymous, 1:52 pm  

Dwi'n teimlo braidd yn euog am fod mor bersonol tuag at Craig a minnau heb ei gwrdd. Dois ar draws dolen at ei wefan ar ddeiseb dotCYM.
Efallai y dof ar ei draws pan mae'r ymgyrchu go iawn yn dechrau.

Byddwn yn awgrymu iddo geisio dod o hyd i lun ychydig mwy 'flattering' o fo ei hun i roi ar y wefan. Tydi pobl ifanc ddim yn mynd i fynd am rhywun mewn crys pinc/peach!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:56 pm  

Wel, diolch am hyn. Dw i'n siwr basech chi'n hoff ohono ac yn ystyried pleidleisio drosto efallai.
Mae e'n ymgyrchu'n galed am y bobl leol ac wastad yn barod i helpu unrhyw un.
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:02 pm  

Bydda i'n trafod lliw ei grys pan wi'n ei weld e heno!
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:04 pm  

..a gofynna iddo am fwy o Gymraeg ar ei wefan na dim ond Croeso i'n gwefan!*?

;-)

Gall o ddim bod dim gwaeth na Rhodri Morgan, mae hynna'n sicr.

(*does dim angen treiglo 'gwefan' yn yr achos yma)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:31 pm  

Odi, gwlei. Gwell o lawer na'r Rhodri 'na!!!

Dw i wedi gweud wrtho am newid ei grys, ond fel mae pawb yn gwybod mae pinc (fel y Ceidwadwyr) yn cwl ar hyn o bryd!!
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:25 pm  

Dwi'n cytuno efo'r boi 'anonymous' arall. Dwi wedi siarad efo Craig - mae o'n grwtyn ffein.
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:28 pm  

Wel wel, dau sylw di-enw yn clodfori Craig o fewn 3 munud, doedd dim syniad gyda fi ei fod mor boblogaidd (crys binc neu beidio!). ;-)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:37 pm  

Nid poblogaidd ydy'r gair!
Pwy ydy'r Rhys Wynne 'ma?
Mae'n amlgwg eich bod yn hoff o wleidyddiaeth!
Ella byddwch yn ystyried ymuno a'r Blaid Geidwadol? Mae lot o siaradwyr Cymraeg ifainc yn ein plith!
sylw gan Anonymous Anonymous, 2:46 pm  

Mae Craig yn well na phoblogaidd!
sylw gan Anonymous Anonymous, 2:46 pm  

Pwy ydy'r Rhys Wynne 'ma?

Mae na luniau o'r creadur hyll wrth ddilyn o ddolen at 'Lluniau ar Fflicr' yng ngholofn dde y blog hwn!

Does na ddim llawer o chwant ar gymeryd rhan mewn gwleidyddiaeth pleidiol ar hyn o bryd, ond mi wnai roi fy marn ar ambell beth pwysig (fel lliwiau crysau e.e.).

Byddwn i'n ystyried pleidleisio dros unrhyw blaid (o fewn rheswm), ond allai'm gweld fy hun yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr na'r Toriaid yn y dyfodol agos.
Dwi'n genedlaetholwr, felly Plaid Cymru gaiff fy mhleidlais eto mae'n siwr, er dwi'n bell o fod yn impressed gyda nhw. Y Blaid Werdd fyddai fy ail-ddewis petai nhw'n sefyll ymhobman mae'n debyg, ond tydw i ddim yn gwybod beth yw eu polisiau nhw dros ddatganoli/annibyniaeth.

Felly pwy ydych chi ;-)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:11 pm  

Yr ydwyr hefyd yn genedlaetholwr. Dyna pam dw i'n pleidleisio dros y Toriaid am mai nhw sy'n amddiffyn diwylliant Prydain. Ni welaf fod Plaid Cymru yn ddigon cryf i wneud hyn. Ystyriaf fod yr iaith Gymraeg yn rhan o fod yn Geidadwr - sef cadw'r iaith Gymraeg. Os ydych chi'n hoff o bolisiau gwyrdd, cofia am windmill David Cameron!!!
sylw gan Anonymous Anonymous, 10:14 am  

Cenedlaetholwr Cymreig ydw i a diwylliant Cymru sy'n bwysig i mi. Yn anffodus dwi'n gweld diwylliant Prydeinig yn gyfystyr a diwylliant Saesnig, ac felly'n fygythiad i Gymreictod a'r Gymraeg. Dwi ddim yn derbyn y lein y gallwch fod yn Gymro a Phrydeinwr, chi'n unai un neu'r llall.

Dwi'n siwr o gadw melin wynt David Cameron mewn cof, ond fel dwi'n dweud mewn post mwy diweddar ar fy mlog, tydw i ddim yn meddwl lot am gimmicks
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:28 am  

mae'r taflen ymgyrchu cyntaf ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad wedi dod trwy'r drws.. ac un gan Craig ydi o. Yn ôl un o'i gefnogwyr:

Y mae hefyd o blaid yr iaith Gymraeg.

siomedig felly oedd gweld bod y daflenyn uniaith Saeseng. Ydi Craig wedi rhoi'r gorau i'r 'bleidlais Gymraeg' yn barod?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:52 am  

Y mae'n hollol synhwyrol i fod yn Brydeinig ac yn Gymro Yn fy marn i. Wedi'r cwbl, y British oedd y Cymry cyn i'r Saeson ddod i Loegr. Credaf hefyd y rhoddir gormod o bwyslais ar y materion hyn. Fel pobl sy'n byw ar yr ynysoedd hyn, rydym i gyd yn Brydeinig. Nid yw'r Saeson yn fwy Prydeinig na'r Cymry o bell ffordd!

O.N Bydd taflenni Cymraeg ar eu ffordd! Mae Treganna yn ardal neis iawn, on'd yw hi!
sylw gan Anonymous Anonymous, 11:37 am  

Fel rhywun sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn oedolyn, teimlaf fy mod yn gallu gweld y ddwy ochr i'r ddadl. Pan oeddwn i'n uniaith Saesneg roedd y Cymry Cymraeg yn dod draw yn erbyn Cymry di-Gymraeg. Fodd bynnag, fel siaradwr Cymraeg nawr, deallaf fod angen amddiffyn yr iaith a chymryd pob cam posib i'w wneud hynny. Trwy gysylltu Britishness a Seisnigrwydd gallwch chi golli diddordeb y Cymry di-Gymraeg yn yr iaith Gymraeg, y rheini sydd hefyd yn ystyried eu hunain yn Brydeinig.

O.N Dw i'n rili mwynhau'r drafodaeth hon!
sylw gan Anonymous Anonymous, 11:44 am  

Dwi'n mewddwl bod y Ceidwadwyr yng Nghymru (yr aelodau ethioledig hynny yw) wedi addasu llawer ers bodolaeth datganoli, ond drwy boeni cymaint am yr 'Undeb' byddwch byth mewn grym. Efallai ar hyn o bryd mae trwch aelodaeth y blaid yng Nghymru yn dal yn hen bobl sydd wedi eu magu gyda'r syniad o'r Ymerodraeth ac yn dal i freuddwydio am ei ddychwelyd, ond mae'r mwyafrif o Gymry ifanc (yn siaradwyr Cymraeg neu beidio) yn fwy hyderus yn eu Cymreictod bellach.

Dwi'n nabod ambell genedaletholwr sydd, yn wahanol i mi, ddim yn ystyried eu hunain yn sosialwyr neu ar y chwith, sydd efallai'n rhannu llawer o'ch gwerhoedd chi. Ond tra byddwch yn ymfalchio cymaint yn Jac yr Undeb, gallan nhw byth ystyried ymaelodi na phleidleisio drostoch chi.

Yn yr Alban, ble mae annibynniaeth yn edrych yn bosibilrwydd, mae pobl o du allan y blaid geidwadol yn rhagweld gall y blaid elwa wedi annibyniaeth, gan mai nid plaid yn cynrychioli Prydeindid fyddai wedyn, ond plaid fydd yn cynrhychioli'r gwerthoedd adain dde yn unig fel trethi isel ayyb - rhywbeth fyddai pobl o blaid efallai.

Dwi'n falch bod 'Di-enwII' yn bellach yn sylweddoli nad bod eisiau amddiffyn y Gymraeg yn golygu bod rhywun yn erbyn y di-Gymraeg. Yn anffodus, dyma yw canlyniad prosiect fawr Prydeindod ble mae'n rhaid i bawb fod yn Saeson bach da a pheidio bod mor ddigwyliydd a siarad iaith gwahanol. Mae'rblaid lafur yng Nghymru yn mynnu parhau gyda'r tacteg yma ac yn hoff iawn o baentio Cymry Cymraeg fel pobl cas ac ymosodol.

Dwi hefyd yn falch eich bod yn mwynhau'r drafodaeth. Efallai y gwnaf gyfeirio at y drafodaeth hwn mewn post newydd ar fy mlog i ddenu mwy ato. Gobeithio ei fod hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cyfathrebu gyda etholwyr yn Gymraeg. Efallai bydd Craig yn ystyried blogio fel rhan o'i ymgyrch - mantais blogio yw mae'n rhoi cyfle i bobl ymateb ac i Craig ymateb yn ól, yn hytrach na phoeni am gael ei gam-ddyfynnu (mis-quote) mewn erthygl neu gyfweliad byr.

Dwi'n parchu hawl unrhun i bostio'n ddi-enw ar y blog hwn, ond efallai byddai'n syniad i chi unai rhoi eich henwau iawn ar ddiwedd pob sylw, neu o leiaf ffug enw, fel mod i'n gwybod pwy dwi'n cyfeirio ato.

dwi'n gadael am y gogledd mewn tua awr er mwyn gwylio Cymru'n chwarae pêl-droed nos yfory yn Wrecsa, felly byddai ddim yn gallu ymateb am sbel.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:15 pm  

Ydi hwn yn record am flog Cymraeg?

Ac mae'n edrych fel bod ebost wedi'i anfon:

"Oi. You speak Cwmrag and vote Tory. Tell this Reece Wynne what a spiffing chap I am. Rah.".

Fel ididsti, biti na fysa na enw neu ddau i'r sylwadau uchod.
sylw gan Blogger Mei, 3:59 pm  

Oedd Nicholas "Old Nick" Edwards yn Aber y noson o'r blaen yn ceisio honni fod y Toriaid wedi gwneud llawer iawn yn fwy dros y Gymraeg nad maent yn cael credit amdano...sgersli bilîf.

Wolf in sheeps clothing yw'r Toriaid sy'n honni eu bod o blaid Cymru (nid o Blaid Cymru sylwer ;-) ), o blaid y Gymraeg ac o blaid gwir atebion i newid hinsawdd. Desperate times call for desperate measures medda'r Sais 'de...wel, ma nhw'n troi at drio hwdwincio pawb efo rhyw chydig o PR clyfar. Sneb yng Nghymru (eblaw am Cardiff North, Penfro a falla rhai o'r blue rinsers ar arfordir y gogledd) am droi at y Toris oherwydd Cameron.

Wna i byth bythoedd amen hyd yn oed gysidro pleidleisio Tori, tra bod nhw'n arddel y ddelwedd hon, ac a'u hanes nhw o falio prin gachiad Nico am Gymru drwy gydol y 70'au a'r 80'au.

Os oes eisiau gwir opsiwn adain dde yng Nghymru mae angen plaid newydd geneldlaetholgar Gymreig fel y CiU yng Nghatalwnia, sydd newydd ennill 40% o'r bleidlais yno. Wnaiff pobol Cymru byth droi at y Toris tra ma'n nhw'n gysylltiedig a Thatcher. Gwynebwch y ffeithiau.

Twenti and cawnting beis...
sylw gan Blogger Nwdls, 5:25 pm  

A plis, peidiwch meddwl bod cuddio tu ôl i ffug enw am enill unrhyw bleidleisa i chi chwaith.

Glywsoch chi am dryloywder ac atebolrwydd erioed? Prin, doedd Cameron ddim yn rhy keen i gael unrhyw sylw i'r cash for honours sgandal nagoedd.
sylw gan Blogger Nwdls, 5:31 pm  

Mwynha'r Gogledd!

Efallai gwnawn ni barhau'r drafodaeth pan ddychwelwch chi.
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:49 am  

Beth am gyfeirio ata i fel Tori Boi?!!!

Does gyda fi ddim account.
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:54 am  

Dio'm yn blydi annodd.
sylw gan Blogger Mei, 2:57 pm  

Ti newydd unioni'r hen record Mei, sef 24 a hwn yw'r 25ain sylw.

Ond ymddengys dy fod di a Rhods wedi dychryn nhw i ffwrdd rwan ;-0
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:38 pm  

Na. Dw i yma o hyd! Dw i wedi cael llawer gwaeth na hwnna fel Tori Cymreig! Er, mae'n rhaid i fi ddweud bod e'n edrych fel bod y drafodaeth wedi dod i ben. Cofia (Mei) mai dim ond un 'n' sydd yn anodd. A bod dwy 'n' yn ennill (Rhodri). Duw, mae safonau addysg wedi dirywio o dan y Blaid Lafur!
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:11 pm  

Mae'n anodd cadw trac ar hen drafodaethau ar Blogger gan nad oes modd cael ffrwd (feed) ar gyfer sylwadau.
Os ti eisiau trafod pethau ymhellach, ac ar bynciau sydd o bwys i ti (neu beth ti'n feddwl fydd o bwys i ddarpar-bleidleiswyr Ceidwadwyr), beth am ddechrau blog?

Dim esgusion am pa mor ddi-glem wyt ti gyda'r wê - dwi eisioes wedi postio Cyflwyniad i flogio (gyda Blogger) ar y blog hwn.

Hefyd, byddwn yn awgrymu eich bod yn defnyddio enw go iawn ar gyfer hygrededd. Pan yn gadael sylw ar y blog hwn er engrhaifft, dewisiwch 'other' yn hytrach na 'anonymous' a rhai eich henw i mewn. Gallwch hyd yn oed gadael dolen at wefan Ceidwadwyr yn y blwch URL.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:40 pm  

Hoffwn i gyfrannu yn rheolaidd. Wi'n brysur iawn yn y gwaith heddiw. Wna i geisio setio 'blogger' lan rywbryd. Diolch yn fawr am eich cymorth - dw i ddim yn rhugl mewn cyfrifiaduron!
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:51 pm  

Gadawa sylw