<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Adolygu gwefannau pleidiau yn y Western mail

2.11.06

I gyd-fynd â lawnsiad gwefan newydd Plaid Cymru, mae Jon Ingram, sef rheolwr gwefan Prifysgol Cymru Casnewydd yn adolygu gwefannau'r pedwar prif blaid wleidyddol yng Nghymru. Dyma'r canlyniadau ar ffurf tabl:

D Rh

P C

Llafur

C

Ymddangosiad

2

6

8

9

Hygyrchedd

4

8

9

7

Cyflymder

6

9

7

10

Nodweddion Arbennig

2

0

3

7

Dod o hyd i bolisi addysg

7

8

6

0

Darganfod eich AC lleol

7

3

5

10

Pa mor cŵl

1

2

5

9

Cyfanswm

29

34

43

43


Er mai arolwg reit ysgafn oedd o, dwi'n anghytuno gyda'r sgôr ychydig a'r dull sgorio.

Iaith Cymraeg
Does dim sôn am darpariaeth Cymraeg, heblaw am wefan Plaid Cymru sy'n gwbwl ddwyieithog, byddai'r tri plaid arall yn sgorio'n isel - y Democratiaid Rhyddfrydol s'dd orau wedyn gan'r rhan fwyaf o'r wefan yn ddwyieithog heblau am y newyddion, ond mae'r ddolen 'Cymraeg' wedi ei chuddio ar waelod y dudalen. Mae gan y Blaid Lafur rhai tudalennau Cymraeg ond does dim dolenni atynt o'r dudalen cartref. Mae yna rai tudalennau random Cymraeg a'r wefan y Ceidwadwyr (sydd ddim rili'n wefan. ond is-wefan o'u gwefan Prydeinig).

Ymddangosiad
Dwi'n amau os yw gwefan y Ceidwadwyr yn haeddu 9/10 a Llafur am ei ymddangosiad.

Nodweddion Arbennig
Mae'r Ceidwadwyr yn cael marc uchel am eu defnydd o flogiau a phodledu (hyd yn oed os ydynt gan y blaid yn Brydeinig an nid yng Nghymru). Mae'r Democraitiad Rhyddfrydol yn cael 2 farc am ddefnyddio RSS (ar gyfer newyddio lefel Prydeinig) ond dyw PC ddim yn cael dim pwyntiau er bod ganddynt RSS hefyd. Mae gan y Ceidwadwyr RSS hefyd, ond mae'n anodd i'w ddarganfod.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:33 pm

7 sylw:

Diolch Rhys :) Dw i'n bwriadu gwneud adolygiad o'r adolygiad yma hefyd, fydd efallai yn lledu bach mwy o olau.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 4:01 pm  

Beth, adolygiad o fy adolygiad o'r adolygiad ;)

Mae'r boi wedi bod braidd yn anheg gyda un y Blaid yn fy marn i, ond wedyn mae'n newydd sbon tra mae'r lleill yn hynach.

Ar fy mlog Saesneg dwi'm ymahlaethu ychydig ar yr adolygiad - dwi'n gadael y sylw nad oes dim RSS ar wefan Prifysgol Casnewydd ;-) (wel, os chi am farnu gwefannau pobl eraill....)

Byddai adolygiad ychydig mwy technegol yn dda.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:14 pm  

Dim syndod fod gwefan y blaid yn llwytho yn araf, chi di gweld be yw resolution y llun o Dafydd Iwan. Agotwch y llun ar ben ei hun mewn ffenestr arall mae'n 1226x1920 sy'n hiwj!
sylw gan Blogger Rhys Llwyd, 4:37 pm  

Rhaid i Plaid colli pwyntiau am gael jingle hollol naff ar y brif tudalen.

Mae'n swnio fel CDs 'Celtic Sounds' sydd ar gael yn Edinburgh Woolen Mills...
sylw gan Blogger Blamerbell, 10:06 am  

O diar. Does dim speakers gyda fi, felly sylawis i ddim ar hynna .(O ble mae nhw'n cael y syniadau twp 'ma?)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:53 am  

Roedd y 'logo sain' yn rhan o'r ail-frandio gynharach eleni. Roedd rhaid gwrthod y temtasiwn o roi fy remics arno.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 2:43 pm  

Efallai byddai wedi cal marciau uwch am fod yn cŵl!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:00 pm  

Gadawa sylw