Allwch chi wiro tudalen?
1.11.06
Dwi wedi bod yn lleoleidio tudalen help ar gyfer PBwiki.
Dyma fy ymdrech i. Byddwn yn gwerthfawrogi petai rhywun yn ei wiro. Mae un peth dwi'n ansicr ohono sef gair Cymraeg am Nested, sy'n ymddangos yma.
Dyma fy ymdrech i. Byddwn yn gwerthfawrogi petai rhywun yn ei wiro. Mae un peth dwi'n ansicr ohono sef gair Cymraeg am Nested, sy'n ymddangos yma.
1. Defnyddiwch # + bwlch ar ddechrau llinell i wneud rhestr wedi'w rifo, fel hyn.Dwi ddim yn siwr os yw 'wedi'w fewnoli' (indented) yn addas?a. Gallwch greu rhestrau Nested fel hyn drwy ddyblu'r * neu'r # ar gyfer isbwyntiau
6 sylw:
sylw gan Rhys, 4:42 pm
Ond tydi hyn ddim i'w wneud â chôd. Mae'r modd sut cafodd y gwreiddiol Saesneg ei eirio'n cymhlethu pethau efallai?
Dwi'n meddwl byddai 'wedi'w fewnoli' yn cyfleu'r ystyr yma.
Dwi'n meddwl byddai 'wedi'w fewnoli' yn cyfleu'r ystyr yma.
...bydde ti'n mynd am 'wedi'w nythu' felly Rhys?
Mi feddyliais am ei ddefnyddio ond wedi chwilio Termiadur y Bwrdd ac Eurfa, gwelais bod ystyr arall iddo (nid bod gynnai syniad beth oedd o wrth gwrs!)
Mi feddyliais am ei ddefnyddio ond wedi chwilio Termiadur y Bwrdd ac Eurfa, gwelais bod ystyr arall iddo (nid bod gynnai syniad beth oedd o wrth gwrs!)
Mae angen term am 'nested' yn sicr - a dwi'n siwr fod y term, mewn cyd-destun rhestrau, yn dod yn syth o'i ddefnydd mewn rhaglennu. Dwi ddim yn siwr os yw fersiwn o nythu/nythog yn gwneud y tro chwaith.
Yn y cyd-destun yma ydi e'n haws, a chliriach i berson lleyg, ddweud 'is-restrau'?
Yn y cyd-destun yma ydi e'n haws, a chliriach i berson lleyg, ddweud 'is-restrau'?
Diolch am yr awgrymiadau, dwi am fynd gyda un Dafydd. Dwi wedi gofyn iddynt rhoi dolen at y ferswin Cymraeg rwan.
Typical, wedi i mi ei gwbwlhau, mae PBwiki ar fi'n galluogi WYSIWYG, felly bydd dim cymaint o angen deallt côd (er fydd hi ddim yn bosib gwneud popeth trwy WYSIWYG)
Typical, wedi i mi ei gwbwlhau, mae PBwiki ar fi'n galluogi WYSIWYG, felly bydd dim cymaint o angen deallt côd (er fydd hi ddim yn bosib gwneud popeth trwy WYSIWYG)
DWi'n meddwl fod nythu yn fwy dealladwy na 'wedi'i fewnoli'. Taswn i'n gweld mewnoli faswn i'n meddwl taw 'internalised' fasa'r ystyr. Ma'[n derm eitha gicaidd beth bynnag felly bydd rhaid deall y term gwreiddiol Saesneg i ddeall y fersiwn Gymraeg beth bynnag.
Ma pobol wedi fy nghywiro i yn y gorffennol am "wedi'w". Ai "wedi'i" ddylia fo fod gan taw talfyriad o "wedi ei rifo" ydi'r ystyr ynde.
Ma pobol wedi fy nghywiro i yn y gorffennol am "wedi'w". Ai "wedi'i" ddylia fo fod gan taw talfyriad o "wedi ei rifo" ydi'r ystyr ynde.
Rwy wastad wedi defnyddio 'wedi'i nythu' ar gyfer 'nested', ond heb feddwl rhyw lawer am ystyr y peth tan nawr, rhaid cyfaddef. Er gwybodaeth, 'hierarchaeth glystyrog' gafwyd am 'nested hierarchy' yn y Termiadur Ysgol, ond 'hierarchaeth nythog' yw'r fersiwn yn y Termiadur newydd.