Cenedl Ddwyieithog? - Adroddiad Cyngor y defnyddwyr
11.2.05
Dwi ddim fel arfer gyda’r mynedd i ddarllen drwy adroddiadau, ond anfonodd Cyngor Defnyddwyr Cymru gopi o’u hadroddiod Cenedl Ddwyieithog?: Agweddau defnyddwyr at ddysgu Cymraeg (dolen at PDF) i’r swyddfa. Pwrpas yr ymchwil yw gweld beth yw barn dysgwyr am safon cyrsiau Cymraeg i Oedolion. Mae sawl rhan yn cynnwys sylwadau gan ddysgwyr o’u profiadau. Beth sy’n ddiddorol am yr adroddiad yw nad yw wedi'i gyfyngu i’w profiadau a’u barn am y cwrs, ond am y profiad cyfan o ddysgu a rhwystrau mae’nt yn dod are eu traws tu allan i’r dosbarth wrth geisio defnyddio a datblygu eu Cymraeg.
Mae engrheifftiau da, er nad ydynt efallai’n newydd ym Mhennod 5.2 a 5.4.
5.2: Defnydd presennol. Mae’r is adran ‘Cyd destyn Cymdeithasol’ yn sôn am bwysicrwydd gallu siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth ac mae ‘Siopa a gwasanaethau cyhoeddus’ yn dangos pa mor anodd yw defnydddio’r Gymraeg yn y sectorau hyn. Credaf bod y canlyniadau, er mor arwynebol or adran hwn yn gallu bod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth caled wrth ddadlau am Ddeddf(a) Iaith newydd.
5.4: Rhwystrau i ddefnyddio’r Gymraeg. Diffyg Hyder yw un yn amlwg ac Ymateb siaradwyr Cymraeg yw un o’r rhai eraill. Os nad ydych yn gyfarwydd iawn a dysgwyr Cymraeg, h.y. os nad ydych yn gwneud llawer â dysgwyr ar hyn o bryd, plis darllenwch y sylwadau isod, os nad y ddogfen mond er mwyn gweld eu safbwynt nhw.

Defnydd Dymunol
Mae’r achlysuron pan fo dysgwyr eisiau defnyddio’r Gymraeg yn debyg iawn i’r rhai pan ddefnyddiant Saesneg. Er i rai dysgwyr sôn am sefyllfaoedd neilltuol, dymunai’r mwyafrif gael dewis i gynnal y rhan fwyaf o’u bywyd bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg.“O bob man, rydw i eisiau ei defnyddio heb ymdrech ac ym mhopeth rydw i’n wneud, lle bynnag sy’n bosibl beth bynnag” (Dyn; 25-59; Llanfyllin)
“Cymaint ag y medrwn, mae’n dibynnu ar y sefyllfa oherwydd does dim cyfle o hyd, ond fe hoffwn i fanteisio ar y sefyllfaoedd hynny i archebu fy mwyd neu ddiod yn Gymraeg” (Menyw; 25-59; Wrecsam)
“Mewn caffes a lleoedd arall lle’r ydych chi’n cael gwasanaeth, dwi eisiau gwneud hynny yn Gymraeg” (Menyw; 60+; Abertawe)
“Fe hoffwn fedru ei defnyddio mewn siopau” (Menyw; 25-59; Wrecsam)
“Yn y banc. Rwyf fel arfer yn dweud ‘Diolch’ ond y cyfan maen nhw’n wneud yw gwenu neu’ch anwybyddu” (Menyw; 60+; Wrecsam)
“O amgylch y dref, pobman a dweud y gwir. Dwi eisiau ei defnyddio” (Dyn; 60+; Arthog)
Ymateb siaradwyr Cymraeg:
Cwyn gyffredin gan ddysgwyr Cymraeg yw ymateb pobl sy’n siarad Cymraeg yn rhugl at eu ceisiadau i ddefnyddio’r iaith. Yn aml, heb wybod am lefel gallu dysgwr, bydd siaradwyr Cymraeg yn troi at y Saesneg os ydynt yn petruso o gwbl, mewn ymgais i fod yn gwrtais ac arbed embaras. Mae hefyd dueddiad cyffredin i siaradwyr rhugl i ateb yn Saesneg, a gaiff yn aml ei ddehongli fel gwrthodiad a methiant i gefnogi ymdrechion y dysgwr i ddefnyddio’r Gymraeg.“Hyd yn oed pan ddewch ar draws rhywun sy’n siarad Cymraeg, does dim sicrwydd y byddan nhw’n siarad Cymraeg gyda chi” (Dyn; 25-59; Rhisga)
“Fe ddywedais wrthyn nhw mod i’n dysgu ac fe drodd y sgwrs i Saesneg yn syth. Doeddwn i ddim eisiau ceisio’r Gymraeg ar ôl hynny” (Menyw; 25-59; Llanfyllin)
“Mae’n fy ngwylltio pan ydych yn adeiladu’ch hyder i lunio sgwrs, eto maen nhw’n ateb yn Saesneg, mae fel eu bod nhw’n swil neu rywbeth” (Menyw; 60+; Arthog)
"Maent fel arfer yn troi i’r Saesneg, dwi weithiau’n siarad Cymraeg yn ôl ond rwy’n teimlo ei fod yn ormod o waith caled iddyn nhw. Gall fod yn eithaf poenus weithiau” (Menyw; 60+; Wrecsam)
Mae dysgwyr hefyd yn teimlo fod siaradwyr Cymraeg yn ymddangos yn betrus i sgwrsio gyda hwy, gan dybied eu bod hwy (y dysgwyr) yn siarad Cymraeg “cywir” yn bennaf oherwydd cred y dysgir gramadeg a geirfa gywir i ddysgwyr, tra bydd siaradwyr iaith gyntaf yn defnyddio gwahanol eiriau tafodieithol a bratiaith. Fel gydag unrhyw siaradwyr rhugl, maent yn tueddu i siarad yn gyflym a all ei gwneud yn anodd i’r dysgwr eu deall."'Dyw siaradwyr Cymraeg ddim yn cymysgu gyda ni. Maent yn dweud ein bod yn siarad Cymraeg posh” (Menyw, 25-59; Rhisga)
"Pan siaradwch gyda rhai siaradwyr Cymraeg dydyn nhw ddim yn hoffi siarad gyda
dysgwyr, mae ganddynt ofn bron y medrwch fod â safon gwell o Gymraeg na nhw.
Dydyn nhw ddim yn dysgu gramadeg chi’n gweld” (Menyw, 25-59; Llanfyllin)