<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Chawn nhw ddim odli

9.2.05

Roedd stori ar Radio Cymru a Radio Wales bore ma (ond dim i'w weld ar y we eto) bod athrawon, yn arbennig o ysgolion yng Nghaerdydd yn anfodlon gyda dewis un o'r cerddi sydd rhaid eu dysgu ar gyfer cystadleuaeth llefaru yn Eisteddfod yr Urdd 2005. Y gerdd mewn cwestiwn yw 'Chei di ddim odli' gan Myrddin ap Dafydd. Sgin i'm dolen at y gerdd chwaith i'w dangos ond roedd tri llinell yn poeni'r athrawon:
Un oedd gyda'r linell yn gorffen gyda "... fy mhlentyn gwyn". Roedd athrawon yn honi bod hyn yn anaddas yn arbennig o ystyried bod yr Eisteddfod yn cael ie chynnal yng Nghaerdydd, ein prif ddinas aml ethnig (groan). Rwan mae'n amlwg i bron bawb mai ffordd o ddweud 'fy mlentyn annwyl' neu bebyg yw'r frawddeg a dim i'w wneud gyda tras, felly dwi'n meddwl fod yn ddadl yn eu gwneud i ymddangos yn wirion braidd.
Y ddau beth arall oedd y defnydd o'r gair 'tin' ar disgrifiad o ferwi pen brennin Lloegr.
Y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl oedd y byddai hyn yn fêl ar fysedd y wasg saesneg/saesnig. Wrth fynd i'r gwaith gwrandawais ar Rhys rhywbeth o un o'r undebau athrawon, yn gyntaf ar Radio Cymru roedd yn dweud mai ei farn personol yw ei fod yn hoff o'r gerdd ond ei fod yn deall pryderon yr athrawon i raddau. Pan holwyd ef eto ar Radio Wales gan Vaughan Roderick, dwedodd yr un peth ond yn anffodus aeth ymlaen a dweud efallai bod rhai (h.y. yr Urdd ac Ysgolion Cymraeg efallai) yn cymeryd yn ganiataol os yw rhywun yn siarad Cymraeg eu bod hefyd yn mynd i fod yn genedlaetholwyr ayyb, a thra byddai'r gerdd yn addas i blant oed 12 - 14 oed, nid oedd yn ei gweld yn addas i rai 9 oed.
Dadl Myeddin ap Dafydd (ni chlywis hyn, mond clywed rhywun o'r Urdd yn ei ategu - byddai dolenni ddefnyddiol iawn yma!) oedd y dylid esbonio cefndir y gerdd, sef y deddfau Penal a oedd yn rhwystro Cymry rhag byw yn y trefi, gweithio na barddoni. Ydi 9 oed yn rhy gynnar i ddysgu plant eu hanes?
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:06 pm

0 sylw:

Gadawa sylw