<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blog's gwleidyddion Cymreig

8.2.05

Dwi eisioes wedi rhoi dolen at blog Peter Black ond ymddengys bod 3 AC arall wedi ymuno â'r hwyl. Dois ar eu traws wrth ddarllen yr erthygl ar wefan y BBC. Y tri gwr doeth yw David Davies (Ceidwadol), Brynle Williams (Ceidwadol) a Leighton Andrews (Llafur). Yn rhyfedd ddigon, yr aelod Llafur dros yr Rhondda yw'r unig un sydd wedi mentro blogio pytiau yn Gymraeg! Yn anffodus, ymddengys mai byr iawn yw attention span Brynle ac mae wedi rhoi gorau i'w flog yn barod (er, roedd yn ddiflas beth bynnag), ond na phoener, gallwch ddilyn ei hanes ar ei wefan hynod broffesioynol (ac uniaith Saesneg) www.brynlewilliams.com.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:05 pm

4 sylw:

Sut Mae?

Diolch i chi am eich post. Welais i eich 'url' yn fy rhestr 'referrers.' Bydda i ceisio gwneud rhai 'flogiau yn Gymraeg. Dw'i'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Dw'i'n cael gwersi y prynhawn'ma. Bydda i edrych ar eich flog nawr - i ymarfer yr iaith!
Diolch am ymateb Leighton, hyd y gwyddwn i (as far as I know) chi yw’r AC cyntaf i adael sylw ar blog Cymraeg (ei iaith) – llongyfarchiadau! Mae darllen ac ysgrifennu blogiau yn Gymraeg yn ffordd wych o ymarfer eich Cymraeg. Efallai bydd gyda chi ddiddordeb yn y rhestr hwn o flogiau gan ddysgwyr (o Gymru, Lloegr a’r UDA) oddi ar flog arall dwi’n gynnal, sef Dysgwyr De Ddwyrain ac mae nifer ar fy rhestr Bloglines. Dwi wedi darllen ar eich blog eich bod yn bwriadu (intend) blogio am blogiau Cymraeg yn y dyfodol. Cyn gwneud hyn, gadewch i mi wybod er mwyn i mi eich cyfeirio (direct) at y goreuon.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:35 am  

This comment has been removed by a blog administrator.
Wel, diolch i chi am eich rhestr. Mae'n defnyddiol iawn. Dw'i'n gwbod rwdls nwdls, morfablog a clwb malucachu yn barod. Bydda i'n cadw fy lygaid (?) ar eich flog. Pan bydda i'n ysgrifennu am y pwnc weflogiau cymraeg, bydda i'n gadael neges ar eich 'flog. Pob hwyl.

Gadawa sylw