<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ystadegau, Ystadegau, Ystadegau

3.1.05

Yn aml pan mae cwmniau a sefydlaidau yn meddwl am esgus/rheswm dros beidio darparu gwasanaeth Cymraeg, un ateb yw nad yw'r niferoedd o ychydig dros 500,000 yn ei wneud yn viable. Mae hyn ynddoi hun yn agwedd anghywir ac ddim yn cymeryd i ystyriaeth faint o fobl sy'n byw yng ngweddill y DG sy'n gallu siarad Cymraeg. Dyw'r data hyn ddim yn cael ei gasglu yn y Cyfrifiad am ryw reswm, ond mae modd gweld sawl a aned yng nghymru ond yn byw yng ngweddill y DG. Yn ôl y dudalen hon, mae 2.8 miliwn o boblogaeth y DG wedi eu geni yng Nghymru. Dim ond ychydig dan 75% (2.25 miliwn) o'r 3 miliwn sy'n byw yng Nghymru wedi eu geni yma, felly mae'n golygu bod 2.8 miliwn minus 2.25 miliwn, sef 550,000 o Gymry yn byw yn rhannau eraill y DG.
Does dim tystiolaeth gyda fi ond tybiaf bod canran uwch o siaradwyr Cymraeg yn mynychu prifysgolion ac o ganlyniad yn gadael Cymru i astudio a gweithio, felly credaf ei bod yn deg i gymeryd bod o leiaf 20%* o'r 550,000 hyn, sef 110,000 y gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'n Gymraeg. Gan fod cymaint o'n gwasanaethau fel canolfannau galw wedi eu canoli bellach a'u lleoli tu allan i Gymru, dylwn gofio cynnwys y 110,000 ychwanegol yma.

*dewisiais y ffigwr o 20% wedi ei selio ar y canlyniadau hyn
Dywedodd dros un rhan o bump (21 y cant) o boblogaeth Cymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2001 gyda chyfrannau tebyg yn gallu darllen (20 y cant) ac ysgrifennu (18 y cant) Cymraeg. Cofnododd un ar bymtheg y cant bod ganddynt yr holl sgiliau hyn.

Roedd y rhai a anwyd yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith Gymraeg na'r rhai a anwyd y tu allan i'r wlad (20 y cant o gymharu â 7 y cant).


Dwi'n cymeryd yn ganiataol fod y fffigwr 20% yn cyfeirio at bobl sy'n gallu siarad, sgwennu a darllen yn Gymraeg. Ac os ydynt yn meddu ar y tri sgil siawns y byddent yn dewis defnyddio'r iaith os yw'r cynnig ar gael (efallai mod in anghywir wrth gwrs)

Darganfyddiad ddiddorol arall oedd:

Fodd bynnag, roedd y rhai a anwyd y tu allan i Gymru yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith Gymraeg os oeddent yn byw mewn ardal Awdurdod Unedol lle defnyddir Cymraeg yn eang. Er enghraifft roedd 17 y cant o'r rhai a anwyd y tu allan i Gymru a oedd yn byw yng Ngwynedd, yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.


Canlyniadau arolwg ieithyddol diweddar sydd wedi cael ychydig iawn o sylw hyd y gwyddwn i yw arolwg a wnaed ar ran Bwrdd yr Iaith. Mae erthygl amdano ar Eurolang ond ddim ar wefan y Bwrdd hyd y gwela i, o dan y pennawd Miliwn o bobl mewn cysylltiad â’r Gymraeg

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:58 pm

0 sylw:

Gadawa sylw