<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Oi, Gwynfryn! Noooooooooo

28.10.09

Esgusodwch fi tra dw i'n newid i mewn i fy nghostiwm spandex ' Mr Pedant'.

Dyna welliant.

Prynnias i gopi o Golwg yr wythnos diwethaf (Hydref 15). Rhaid i mi ddeud mae yna ambell i beth reit diddordol ynddo. Mae colofn Mike Parker yn werth ei ddarllen pob tro, er alla i ddim dweud yr un peth am rai o'r colofnwyr eraill. Dau golofn a dynnodd fy sylw i yn y rhifyn yma oedd un Angharad Mair a oedd yn reit feirniadol o ddefnyddiwyr maes-e ac un gan Hywel Gwynfryn yn trafod 'hanes' blogio.

Fel y gwyddoch (neu mwy na thebyg, fel na wyddoch), mae BBC Cymru yn cynnal 5 blog Cymraeg. Mae pob un yn dra wahanol, Ar y Marc (yn trafod pêl-droed), Vaughan Roderick (gwleidyddiaeth), C2 (cerddoriaeth), Blog Cylchgrawn (y pethe) ac un Hywel Gwynfryn (malu cachu Radio Cymru-aidd, ond gyda LOT o luniau).

Mae ansawdd y gwahanol flogiau yn amrywio hefyd. Er mai pêl-droed yw fy nileit mwyaf i, credaf mai blog Ar y Marc yw'r salaf, mae'n cael ei ddiweddaru'n anghyson, ar cynnwys yn reit arwynebol. Mae blog C2 yn reit bywiog ac mae sawl cyfranwr iddo, ac mae ganddo botensial gwych i allu rhestru playslists a rhoi rhaglfas o raglenni'r dyfodol, ond am ryw reswm dw i braidd byth yn yn ei ddarllen. Mae Blog y Cylchgrawn yn cael ei ddiweddaru'n gyson , mae'r cofnodion yn amrywiol ac yn gynhwysfawr, ac eto tydy o ddim cweit at fy nant i. Un peth sy'n gyffredin am y tri yma yw does neb yn gadael sylwadau, tra ar y llaw arall blog Vaughan Roderick yn ddi-os yw y blog Cymraeg mwyaf poblogiadd o ran darllenwyr ac o ran faint sy'n gadael sylwadau, a chi'n cael yr argraff ei fod yn wir mwynhau blogio ac ymateb i sylwadau eraill, rhywbeth holl bwysig.

Ond y blog sydd wedi fy synnu i yw un Hywel Gwynfryn, mae o wedi cymryd at flogio gyda argyhoeddiad. Mae'n blogio'n rheolaidd a hefyd mae o leaif un llun gyda phob cofnod (weithiau hyd at bump).

Yn ôl at bwynt y cofnod yma. Yn ei golofn yn Golwg mae Mr G yn nodi bod y gair 'blog' yn dalfariad o 'web+log' ac mai diffiniad 'swyddogol' am flog yw
Dyddiadur personol, sy'n cynnwys sylwadau diddorol ac yn adlewyrchu diddordeb y blogar [sic]
Mae'n dilyn y dyfniad yma (ond ddim yn nodi o ble daw'r diffiniad) gyda
Felly, roedd Capten Cook yn cadw blog
Mae'n dod i'r casgliad yma dw i'n meddwl achos roedd Capten Cook yn cadw log, a'u bod nhw wedi cael eu ddigideiddio (er na nodwyd URL yn golofn) . Iesu, sôn am ddryswch.

Roedd colofn Angharad Mair yn gwneud llawer mwy o synnwyr. Teitl ei cholofn oedd Mae'n bryd rhoi gorau i'r ffug enw. Mae hi'n dechrau i ffwrdd drwy ddweud na oes ganddi ddim diddordeb yn Twitter, Facebook na MySpace, sy'n ddigon teg a rhesymol. Mae hi wedyn yn cyfeirio at stori ddiddorol (nad oeddwn i'n gyfarwydd a hi), ble wnaeth model o'r enw Liskula Cohen ennill achos llys oedd yn gorfodi Google i ddatgelu pwy oedd y person fu'n blogio'n ddienw gan gan ei galw hi'n bob math o enwau ffiaidd. Mae'n debyg bod Angharad yn gallu uniaethu a'r stori, gan iddi hefyd ysgrifennu
Mae maes-e ers blynyddoedd wedi bod yn gorlifo o sothach gwenwynig a phlentynaidd. Onid yw hi'n hen bryd i ni yng Nghymru i dyfu i fyny?
Dw i'n cytuno mai peth diflas iawn yw'r busnes yma o bobl yn mynd ar-lein yn ddienw a phostio pethau digon cas am bobl (enwog fel arfer) ac mae tipyn o hyn yn digwydd ar maes-e yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cymedrolwyr i atal/ddileu hyn. Er teimlaf bod Angharad yn lladd gormod ar y cyfrwng yn hytrach na'r cynnwys, ac hefyd rhaid cofio fe gewch chi grancs cenfigenus ymhob man mewn bywyd.

Byddai'n ddiddorol hefyd gwybod beth yw barn Angharad am golofn 'Jac Codi Baw' (nid ei enw go iawn!) yng nghefn Golwg, sydd yn yr union rifyn yn ac y mae Angharad wedi ysgrifennu'r uchod, yn nodi iddo fod yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon yr un pryd a chystadleuwyr Fferm Ffactor, a bod sawl un ohonynt wedi bod yn 'or-gyfeillgar' a'i gilydd.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:28 pm | dolen | 4 sylw |