Digwyddiad 'Hacio'r Iaith' llai nai thair wythnos i ffwrdd.
10.1.10
Bydda i'n mynd i Aberystwyth ar y 30ain o'r mis hwn ar gyfer digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith (diolch i Carl am greu'r wefan, ac i Iestyn am y poster).
Mae hanner cynta'r diwrnod yn cymryd ffurf BarCamp, sef unconfrence, hynny yw math o gynhadledd cwbl anffurfiol ble mae croeso i unrhwy un ei fynychu ac hefyd, yn ddelfrydol, mae pawb yn cyfrannu ato. thema'r digwyddiad yw Y Gymraeg a Thechnoleg.
Fel dwedais i, mae croeso i unrhwyn fynychu (ac mae am ddim, diolch i noddwyr caredig), er dim ond lle i 30 o fobl sydd, ac mae 22 eisoes wedi dweud eu bod am ddod ar y wiki.
Oherwydd fformat y dydd, bydd pawb yno'n diddorol a dylanwadol, ond ymysg y mynychwyr bydd cyfle i hobnobio gyda:
-Pennaeth Golwg360
-Nifer o staff Canolfan Bedwyr (yn trafod eu prosiectau -gwaith a prosectau amser sbar)
-Unigolyn sy'n gweithio ar y BBC iPlayer
Mae cyfle i bawb wneud cyflwyniad hyd at 20 munud am bwnc perthnasol o'u dewis, a dw i'n ystyried y canlynol
-Wicipedia Cymraeg
-Cymraeg i Odeolion (e-ddysgu a rhywdwiethio cymdeithasol)
-Gwefannau mewn ieithoedd lleafrifol
Yn y prynhawn byddwn yn dilyn fformat HackDay (nau 'HacBnawn' o leia) lle byddwn yn ceisio creu rhywbeth yn defnyddio data agored. Dwi wedi bod yn dilyn dolenni delicious rhywun o'r enw Hyfforddwr. Mae wedi casglu rhai diddorol am fapio, ystadegau a visualizations. Sgynna i ddim syniad pwy ydy o neu hi, na sut i gysylltu â fo/hi, ond byddai'n gret ei weld/gweld yn Aber i roi help llaw.