<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Toronto, Oshawa a Niagara

25.6.06

Bues i Ganada am ychydig dros wythnos i fynychu priodas cyfnither fy nghariad. Er ei bod yn priodi Gwyddel ac eu bod bellach yn byw yn Iwerddon, mae ei rhieni a'i brawd yn dal i fyw yng Nghanada, ac mae'r tad yn rhy wael i deithio. Mi wnaeth dwy chwaer tad Sarah ymfudo i Ganada felly mae cefnder a chyfnither arall o ochr tad Sarah yn dod o Ganada hefyd. Dyma oedd y tro cyntaf i Sarah a'i thad eu gweld nhw i gyd gyda'i gilydd ers bron i 20 mlynedd. Cynhaliwyd y briodas ger glan llyn Ontario yn Oshawa sydd tua awr i'r dwyrain o Toronto.
Tref diwydiant ceir yw Oshawa, ac i fod yn deg, tydi hi ddim yn le ymwelwyr, ond dyma ni'n treulio pedair noson yno yn gyfan gwbwl a phedair noson yn Toronto. Dyma fap o bobman fues i (isod mae un ar gyfer Toronto yn unig), a dyma set lluniau Flickr o'r daith.

toronto tagged map by user - Tagzania

Llety
Tra'n Oshawa dyma ni'n rhannu fflat myfyrwyr dwy lofft gyda tad Sarah. Roedd y lle'n lân a thaclus ac roedd cyfradd arbennig am wythnos yn ei wneud yn rhesymol iawn, hyd yn oed gyda ni'n treulio 4 noson oddi yno.
Yn Toronto dyma ni'n treulio'n noson cyntaf wedi glanio yn Banting House a thair noson ganol wythnos yn Mulberry Tree, y ddau'n le Gwely a Brecwast yng nghanol ardal hoyw y ddinas, o'r enw Wellsley. Er fod y Banting House yn ddrytach a bod rhaid rhannu ystafell ymolchi, roedd yn well gyda fi fanno na'r Mulberry Tree - roedd awyrgylch y lle'n fwy ymlaciol ac roedd y brecwast yn dda - tra cafwyd gynnig brecwast rhyfedd iawn yn y Mulberry Tree fel ham a chaws wedi'w toddi a'r ddarn o rôl gwyn un bore, ac ŵy wedi'w sgramblo mewn vol-au-vent! Be oedd yn rhyfedd oedd bod y lle yma'n cael canmoliaeth mawr yn y Rough Guide to Toronto a bod y brecwast yn arbennig. Yn rhyfedd ddigon roedd mam o merch o Gaerdydd yn aros yno run pryd a ni!

Bwyd a diod
Fel yn yr UDA a Seland Newydd, ceisias flasu cymaint o'r cwrw lleol a phosib.  Fel ym Mhrydain (a'r UDA hefyd) mae yn dŵf mawr wedi bod mewn bragdai bychain yng Nghanada, gyda Ontario ei hun yn cynnwyds degau o fragdai. Y rhai dwi'n cofio eu blasu oedd Rickard's Honey Brown, Rickard's Red (ddim yn cin), Moosehead, Grasshopper (Wheat Beer), Black Oak (IPA blasus), King Pilsner, Mill Steet Organic (neis), Mill Street Lager, Upper Canada Dark Ale, Hemp Beer, ac Apricot Wheat Beer (byth eto!) Sleeman's Cream Ale ac ambell un arall dwi ddim yn cofio. Fy fferfryn oedd Creemore Springs Lager (ond, och...!).
Tri lle da i brofi'r uchod yw Volo, Ces't What? a Rebel House. Dyma fi'n dod ar draws rhain tra'n ymchwilio'r wê yn hytrach na dibynnu ar y Rough Guide, ac mae sawl gwefan da am gwrw fel The Bar Towel a Good Beer Blog. Roedd Volo'n tipyn o oasis yng nghanol siopau a bariau digon tacky y rhan o Younge Street oedd ger ein llety, ac er bod dewis o ddegau o gwrw i'w cael yno (roedd tua ugain o rai Prydeinig ar gael yn unig), mae'r lle'n ystyried ei hun yn le bwyta Eidalaidd. Casom ni bitsa's da iawn yno (unrhyw bitsa a salad am $10) ac roedd cynnig arbennig ar y cwrw ar nos Lun (pob un $4), er o beth dwi'n ddallt mae pobman yn brysur drwy'r wythnos. Mae Ces't What? yn dafarn yng ngahnol 'Downtown' ac eto gyda dewis eang o gwrw yn ogystal a'r Hemp Beer sy'n cael ei fragu ar y safle. Mae'r Rebel House ychydig allan o'r ffordd i'r gogledd ond werth trip ar yr subway yno. Mae'r dewis cwrw ychydig yn llai yma gyda dim ond dewis o tua 20! Yn anffodus i ni roeddem wedi bwyta'n barod achos roedd bwydlen y lle'n edrych yn hyfryd. Er ein bod yn hwyr ac ein bod eisioes wedi bwyta dyma ni'n archebu Cheese Pennies fel snack. Mae'r fwydlen ar eu gwefan werth ei weld.
Buom ni hefyd am fyrbryd canol bore yn y By The Way Cafe, ble gallaf argymell y combo.

Pethau i'w gweld
Yn amlwg roedd rhaid mynd fyny'r CN Tower yn enwedig gan bod y tywydd mor braf a chlir (tro diwethaf daeth Sarah yma, roedd ei pherthnasau wedi archebu bwrdd yn y bwyty troellog, ond roedd hi'n niwl a welson nhw ddim). Yn ogystal a'r golygfeydd gwych dros y ddinas, llyn Ontario ac Ynysoedd toronto, roedd gêm Trinidad a Tobago yn erbyn Sweden ymlaen ar y teledu yn y caffi - modd i fyw.
Wedi talu dros $21 doler yr un am fynd fyny'r twr, mae dau le gerllaw sydd am ddim sef y Toronto Dominion Gallery of Inuit Art a’r Design Exchange (er mae rhaid talu i weld rhai arddangosfeydd fel y Sustainable House Competition y gwelsom)
Doeddwn ddim yn siwr beth i ddisgwyl yn y Beta Shoe Museum. Mae’r llawr uchaf yn nefoedd i ferched gyda eisamplau o waith a hanes dylunwyr esgidiau mwyaf yr 20G. Ar y llawr gwaelod mae arddangosfa sy’n rhyfeddol o ddiddorol yn dangos esiamplau o wahanol esgidiau yn perthyn iI wahanol oesoedd, crefyddau a diwylliannau. Ar y llawr canol mae'r Walk of Fame ble modd gweld esgidaiu pobl enwog yn y byd chwaraeon, gwleidyddol a’r byd adloniant. (OK, roedd y lle yna bach yn rhyfedd, ond nes i fwynhau).

Dwyiethrwydd
Does fawr o Ffrangeg, (wel fawr ddim o be dwi'n ddallt) yn y rhan hyn o Ontario, ond mae arwyddion ar y priffyrdd yn ddwyieithog a synnais gweld cymaint o becynnu dwyieithog (syniad am destun grŵp Flickr tybed?). Roedd hyd yn oed potel sôs coch Heinze yn ddwyieithog, ond am ryw reswm doedd Sarah ddim eisiau i mi dynnu llun o'r botel pan oeddem mewn bar (dyna pam mae llun o boteli sôs coch uwchben). Yn glywedol glywes i ddim ffrangeg onibai am gwpwl drws nesaf i ni mewn tafarn (a oedd hefyd yn siarad Saesneg gyda acen gogledd America) ac hefyd pan yn y lifft yn mynd fyny'r twr CN. Cafodd pawb eu croesawu'n Saesneg ac yna dyma'r tywys yn cyfarch pawb yn Ffrangeg a gofyn os oedd unrhywun yn siarad Ffrangeg - doedd dim ymateb felly parhaodd i siarad yn Saesneg yn unig.

Sylwebaeth Cymdeithasol yr Athro Rhys

Roedd sawl paralel rhwng Canada a Seland Newydd. Y ddwy genedl yn gyn goloni, y ddwy wlad yn meddu ar ardalodd o harddwch naturiol eithriadol, y ddwy wlad yn ceisio cynyddu eu poblogaeth ac hefyd bodolaeth poblogaeth gynhenid.
Er bod rhan helaeth o Ganada yn wylltiroedd, mae pwysau mawr gan or-ddatblygiad yn ardal Toronto ac o gwmpas llyn Ontario, hefyd mae darganfyddiad olew yn Alberta a phoblogrwydd cynyddol y rhanbarth yn golygu bod nifer fawr o fobl yn llifo i'r ardal gan gynyddu'r galw am dai newydd a swyddi. Yn y gorffenol mae trefi a dinasoedd Canada wedi datblygu ar batrwm yr UDA gyda tai mawr a maestrefi.
Peth arall am trawodd oedd y gwrthdaro parhaol gyda'r boblogaeth gynhenid, yn union fel yn Seland Newydd. Eto, hawliau dros diroedd oedd y prif bwnc. Tra roeddwn yno, roedd Caledonia Land Dispute ymalen, ac efallai'n dal i rygnu ymlaen rwan.

, , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:41 pm

3 sylw:

Es i i'r brifysgol dim yn rhy bell o Niagara yn Geneva, NY.
sylw gan Blogger Tom Parsons, 3:18 pm  

Roedd y rhaeadr ei hun yn anhygoel, ond roedd tref Niagara (o be welais i) yn le afnadwy. Dychmygaf bod Buffalo ar yr ochr arall yn debyg, os nad yn waeth.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:16 am  

Es i ddim i Buffalo erioed. Ond Niagara, NY a Niagara, Ontario yn yr un fath drwg.
sylw gan Blogger Tom Parsons, 3:35 pm  

Gadawa sylw