<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mynwch eich hawl i wisgo lederhosen

21.6.06

Efllai bod sawl peth gwaeth yn digwydd yn y byd, ond cefais sioc o glywed bod cefnogwyr tîm yr Iseldiroedd wedi cael eu gorfodi i ddiosg eu trowsysau os oeddynt am fynychu'r gêm yn erbyn y Cote d'Ivoire, am fod enw cwmni cwrw arno nad oedd yn noddwr swyddogol. Byddwn i ddim wedi bod yn hapus iawn gyda cael fy ngorfodi i dynnu fy nhrowsus i ffwrdd (er dwi wedi gwneud hyn yn wirfoddol mewn tafarn unwaith wedi yfed gormod) i wylio gêm pêl-droed.

Mae'r sdori wedi cael ei adrodd yn y wasg fel ychydig bach o ddigrifwch, ond i mi mae'n ymyraeth difrifol ar hawliau unigolyn. Roedd yna arbennigwr yn y maes marchnata ar y radio ddoe yn amddiffyn y penderfynniad ac yn cyhuddo cwmni Bavaria o 'ddefyddio' cwsmeriaid a bod rhaid cofio pa mor bwysig yw cyfraniad nawdd y cwmniau mawr taug at lwyfannu cystadleuthau mawr. Wrth gwrs mae cwmni Bavaria wrth eu boddau gyda'r cyhoeddusrwydd ychwanegol maen't wedi derbyn yn sgil hyn, dwi ddim yn siwr os mae ymgais ar 'ambush marketing' oedd o ar eu rhan nhw, neu jyst gwerthu'r dilledyn oeddynt fel gimmick marchnata ysgafn i gyd-fynd a hoffter yr Iseldirwyr o wisgo gwisgoedd oren rhyfedd i'w gemau.

Beth sydd ar goll yn yr holl sylw yw'r modd mae cefnogwyr pêl-droed yn cael eu trin a'r grym sydd gan y cwmniau mawr. Heb ddiddordeb y cefnogwyr byddai dim pwynt cynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd, a heb gystadleuaeth byddai yna ddim cyfleodd noddi i'r cwmniau. Hoffwn feddwl petawn i yn lle'r cefnogwyr byddwn wedi gwrthod cydweithredu, ond petawn wedi llwyddo cael tocyn ac wedi teithio'r holl ffordd i'r Almaen mae'n debyg mai ufyddhau byddwn wedi gwneud yn y pendraw os golygai na chawn fynediad i'r maes. Eisampl arall yw hwn o sut mae pêl-droed, fel sawl camp arall yn ymbellau o'r cefnogwr cyffredin.

Gobeithio bydd y rhai a gollodd eu lederhosen yn mynd ar mater yn bellach. Dwi am wneud safiad fy hun a mynd allan i brynnu potel neu ddwy o Bavaria.


, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:45 am

0 sylw:

Gadawa sylw