<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yr Anthem anghywir

9.5.05

Trois y teledu ymlaen i wylio gêm derfynnol Cwpan Cymru pnawn ddoe ar S4C. Doedd y gêm heb ddechrau, roedd pawb yn sefyll ar gyfer yr anthem ac roedd rhywbeth newydd fynd o'i le ond wyddwn i ddim beth. Dwi newydd weld ar wefan y BBC mai anthem cenedlaethol Iwerddon gafodd ei chwarae.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod yr hyn ddigwyddodd yn "anffodus" ac iddo achosi "embaras" iddyn nhw.

Dywedodd iddyn nhw ddefnyddio tâp a wnaed ar gyfer gêm flaenorol rhwng Iwerddon a Chymru - gydag anthem Iwerddon yn gyntaf - ac nad oedd y person oedd yn chwarae'r tâp wedi sylweddoli hynny.

"Mae gwers wedi ei dysgu ac ni fydd yn digwydd eto," meddai.

Diar mi am ffyc yp wir.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:56 pm

0 sylw:

Gadawa sylw