<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



McKenna eisiau ffeinal Cwpan Cymru yn Lloegr

6.5.05

Dwi rioed wedi hoffi'r afiachddyn, ond mae ei awgrym diweddara y hollol wirion. Mae'r sgowsar hoffus yn anhapus fod rhaid i gefnogwyr Llansantffraid drafeilio'r holl ffordd i Lanelli ar gyfer y gêm rownd derfynnol gan ei fod mor agos i Gaerfyrddin sef eu gwrthwynebwyr. Dyma oedd ganddo i ddweud yn ôl Cymru am Byth:

McKenna blasted organisers saying: "Why should our fans have to travel three hours when Carmarthen fans travel only 20 minutes?

"It should be somewhere central. If they can't find a club in Wales, there are enough grounds in England for it."

He added: "There's Kidderminster, West Brom, Villa, Birmingham, Walsall, Telford.

Dwi erioed wedi bod yn hapus gyda ffeinal FA Lloegr yn cael ei chwarae yng Nghymru, ond mae llai fyth sens mewn cael ffeinal Cwpan Cymru yn Lloegr. Dwi ddim yn gyfarwydd iawn â chanolbarth Lloegr (diolch byth!), ond yn ôl yr RAC mae West Bromwich yn 170 milltir oddiwrth Caerfyrddin tra mai dim ond 100 milltir sydd rhwng Llansantffraid a Llanelli. Ond mae gan y tossar bwynt, siawns na fydda Aberystwyth neu Cwmbran wedi bod yn ddau faes mwy canolig.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:59 am

0 sylw:

Gadawa sylw