<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Terfysgwr cynnar

20.5.05

Llyfr yr wythnos yr wythnos hwn ar Radio 4 oedd llyfr am John the Painter. Mae'n swnio fel tipyn o gneuan. Albanwr o'r 18G oedd John the Painter (enw iawn James Aitken) aeth i fwy i Lundain i chwilio am waith. Efallai mai tlodi oedd yn gyfrifol, ond tra yn Llundain profodd gasineb mawr tuag ato oherwydd ei fod yn Albanwr a daeth i gasau y Saeson a Lloegr. Aeth i America a thra oedd yno bu'r Chwyldro. Yn ystod y rhyfel rhwng Prydain a'r America bu'n ceisio rhoi porthladdoedd Bryste a Portsmouth ar dân, ac roedd yr awdurdodau yn ei ofni. Mae mwy o lawer i'r stori wrth gwrs felly googlwch. Diddorol yw beth mae un o brynnwyr y llyfr yn ei ddweud ar Amazon.
Any Americans who pay attention to history take pride in the Revolution that brought the nation its freedom, and all Americans have been shocked by recent attacks by terrorists. What if during the Revolution, there had been a terrorist operating in England on behalf of American freedom? It seems an impossible anachronism, but the strange truth is that there was such a man. He is a historical footnote now, but at the end of his brief life he was one of the most notorious men in England because of his crimes of arson performed against naval targets in furtherance of the American cause against England.

Mae'n fy atgoffa tipyn bach o foi oeddwn arfer rhannu ty gyda o'r enw Paul Painter oedd yn llwyddo creu dinistr mawr i'r ty pan oedd wedi meddwi, ond yn ffodus roedd yn reolwr ar Travis Perkins yn Porthmadog ac roedd o a fi'n treulio ambell ddydd Sul gyda hangover yn ceisio trwsio man bethau ar y ty fel gosod gwydr newydd cyn i'r landlord druan ffeindio allan.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:49 pm

0 sylw:

Gadawa sylw