<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pawb a'i rag(farn)

18.5.05

Mae blog mwyaf poblogaidd Prydain sef A Welsh View wedi bod yn gofyn i'w darllenwyr niferus (74 tanysgrifiwr ar Bloglines yn unig) beth mae'nt yn feddwl o Gymru. Dyma'r ymatebion. Wrth gwrs mae llawer iawn o'r ymatebion yn rhai tafod yn y boch, ond roeddwn yn bechrau rolio fy llygaid gyda'r rhai cyntaf (er, allai'm peidio gwenu pan mae Saeson yn cyhuddo'r Cymry o ragfarn tra'n bod yn hollol ragfarnllyd!) ond wedyn mae rhan fwyaf yn canmol ein pobl a'n tirlun. Fy fferfyn yw
Wales, is that in Europe?
:)
Rhaid i mi gyfadded, mae gennyf alterior motive sef gweld os yw creu dolen at y wefan hon yn cynyddu pobl sy'n dod yma (trwy sustem trackback y wefan) ac hefyd dwi newydd osod cyfrif Blogshare ar gyfer y blog hwn ac eisiau gweld os fydd hyn yn cynyddu gwerth fy mlog. Ydi hyn yn twyllo?
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:04 pm

0 sylw:

Gadawa sylw