Talu athrawon i ddysgu Cymraeg
23.5.05
Ar y newyddion heddiw mae stori bod athrawon yng Nghymru yn mynd i gael 3 mis oddi wrth eu gwaith i ddysgu Cymraeg. Roedd ar eitem newyddion Radio Cymru ac ar wefan BBC Cymru. Tydi'r stori ddim i'w weld (eto) ar wefan BBC Wales, sy'n anffodus, gan fod y pobl sy'n gymwys i gymeryd mantais o hyn (h.y athrawon di-Gymraeg) yn fwy tebygol o fod yn darllen y wefan BBC Saesneg. Bydd yn ddiddorol gweld sut fath o ymateb byddd i hyn gan athrawon (siwr yn falch o gael seibiant o'r dosbarth), ac cyfranwyr wrth-Gymraeig at golofn llythyrau y Western Mail!