<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Colled Blog

23.11.04

Un o'r blogiau galwedigaethol sydd wedi cael cryn sylw yn y wasg yw Diary of a Fast Food Life, ond heddiw, wrth glicio ar fy rhestr bloglines, dyma fi'n gweld neges trist hwn:

Diary of a Fast Food Life has now ended for multiple reasons.

Thank you for visiting.

O wel, rhaid i bopeth ddod i ben rhywbryd mae'n debyg. Dwi am drin lawnsiad fy mlog i heddiw felly fel teyrnged i'r wefan.

Tra ar y pwnc o fast food, dyma wefan McDonald's Workers' Resistance, sydd gyda storiau hynod o ddifrifol ac hefyd doniol mewn mannau. Stopiais i fwyta mewn 'bwytai' fast food yn ystod y cyfnod BSE, ond ers hynny dwi wedi dod i gasau'r llefydd yn fwy fwy wrth i mi ddysgu mwy am eu harferion ofnadwy; eu marchnata di-egwyddor, triniaeth o'u staff ac hefyd yr effaith amgylcheddol niweidiol mae'r diwydiant yn ei greu. Darllenais Fast Food Nation ychydig dros flwyddyn yn ôl, llyfr poblogaidd dros ben a mi wnes i ei fwynhau yn fawr iawn. Allai ddim deall sut all unrhywun a ddarllenodd y llyfr hwn fentro camu mewn i ApDonald neu Frenin Byrgyr byth eto.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:27 pm

0 sylw:

Gadawa sylw