<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Iawn

23.11.04

Dwi eisioes wedi dechrau blogio gyda fy mlog ar gyfer dysgwyr sef Dysgwyr De Ddwyrain, ond oherwydd natur y blog, doeddwn ddim eisiau ei lenwi gyda pethau personol fy hun, felly yr unig opsiwn yw dechrau un arall personol. Bydd yn debygol o fod yn gasgliadau dolenni yn bennaf, yn arbennig yn ymwneud â:
-Yr Amgylchedd
-Yr Iaith Gymraeg
-Hawliau Dynol / Masnach Deg
-Pêl-Droed (Cymru a Wrecsam)
-Cerddoriaeth
-Cynaladwyaeth (beth bynnag mae hynny'n olygu!)

Dwi hefyd yn ystried cael gwefan drychol yn Saesneg er mwyn i gynulleidfa ehangach ddod i wybod beth sy'n mynd ymlaen yn ein byd bach Cymraeg ni ac er mwyn i'r di-Gymraeg weld ein safbwyntiau ni. Efallai mai mond eitemau am yr Iaith Gymraeg a gwleidyddiaeth Cymru y byddai'n trafferthu eu postio ar y blog Saesneg arfaethedig, cawn weld.

Gwyliwch allan!
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:55 pm

2 sylw:

prawf - ie diflas dwi'n gwbod
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:52 pm  

Croeso i fyd y blogiau (personol)!
sylw gan Blogger cridlyn, 4:15 pm  

Gadawa sylw