<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/plusone.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("iframes-styles-bubble", function() { if (window.iframes && iframes.open) { iframes.open( '//www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\759291287\46blogName\75Gwenu+dan+Fysiau\46publishMode\75PUBLISH_MODE_BLOGSPOT\46navbarType\75BLUE\46layoutType\75CLASSIC\46searchRoot\75http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\46blogLocale\75en_GB\46v\0752\46homepageUrl\75http://gwenudanfysiau.blogspot.com/\46vt\75-4875363306407869682', { container: "navbar-iframe-container", id: "navbar-iframe" }, { }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Jane Davidson AC vs Mark Thomas

7.7.09

Es i wylio Mark Thomas yn y Sherman neithiwr (mae o yno heno hefyd, ac yn Aberhonddu yfory). Enw ei daith ydy Its the Economy, Stupid!. Doedd y sioe yma ddim wedi ei ffocysu cymaint ar un testun o'i chymharu a'i daith diwethaf oedd yn canolbwyntio ar y diwydiant arfau, ond roedd yn lot o hwyl.

Un elfen o'r daith yw bod y gynulleidfa yn cael cyfle o flaen y sioe ac yn ystod yr egwyl i gynnig polisi ar gyfer maniffesto newydd, yna ar ddiwedd pob sioe bydd un polisi newydd yn cael ei ddewis a'i ychwanegu at y maniffesto. Ar ddiwedd ei daith, bydd Mark Thomas yn mynd ati i weld pa mor ymarferol yw pob polisi (ddim o gwbl yn achos rhai!) ac yn ceisio eu gwireddu.

Mae eisoes wrthi'n ceisio gwireddu polisi buddugol gig Huddersfield, sef bod rhaid i Margaret Thatcher dalu am ei hangladd ei hun. Gan mai'r Frenhines sy'n penderfynu (as if!) pwy sy'n cael angladd gwladol neu beidio, mae cardiau post ar gael i unigolion ddanfon ati yn gofyn iddi hi beidio gorfodi cymdeithas i dalu am angladd rhywun sydd ddim/nad oedd yn credu bod y fath beth a chymdeithas yn bodoli.

Un cwyn bach am ei sioe, ac efallai bod o ond i'w ddisgwyl gan ffigwr o'r chwith Brydeinig, ond doedd ei sioe ddim wedi cymeryd i ystyriaeth y deimensiwn Gymreig (heblaw am ddefnyddio acen y Cymoedd pob tro roedd o'n dynwared pobl o Gaerdydd). Cododd dau beth:
  • Cynnig i ddod o hyd i anthem 'genedlaethol' newydd, gan bod God Save the Queen yn anaddas i 'ni Brydeinwyr' gweriniaethol. Wnaeth neb ei atgoffa bod gyda ni anthem yn barod.
  • Yn un o'r sioeau blaenorol, y polisi buddugol oedd: To create a measure for politicians performance along the lines of school SATs - sy'n syniad ardderchog ( i raddau mae modd mesur perfformiadau yn barod drwy TheyWorkForYou). Yn ystod yr egwyl, dyma rhywun yn 'dob in' (geiriau Mark Thomas) bod Jane Davidson yn y gynulleidfa. Yn amlwg doedd o ddim am golli'r cyfle i dynnu coes gwleidydd, a dyma fo'n bygwth rhoi prawf SATs iddi - ond hi gafodd y gair olaf drwy ei ateb yn ôl a dweud ei bod hi wedi eu diddymu yng Nghymru!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:19 am

0 sylw:

Gadawa sylw