Cyfarchion o'r Hen Ogledd
27.5.05
Dwi'n treulio'r penwythnos (hir) yng ngwlad y Gravy Munchers (Swydd Efrog), yn ymweld â rhieni fy nghariad sy'n byw jyst tu allan i ddinas Efrog. Mae Sarah wedi mynd i dorri ei gwallt felly dyma fi'n bachu'r cyfle i ddod yma. Dwi'n rili hoffi dinas Efrog, er fod y tyrfaoedd weithiau'n anioddefol, mae gan y lle gymeriad arbennig. Mae'n braf mynd ar hyd y strydoedd cul a picio mewn i'r degau o hen dafarndai sydd yn ffodus iawn heb eu newid ers canrifoedd a chael cwrw da ymhob un. Dwi wedi bod i'r Minster sawl tro yn y gorffenol, ond rwan rhaid talu £5 y tro yn hytrach na rhoi cyfraniad felly aeth Sarah a fi i weld Eglwys y Holy Trinity yn stryd Goodramgate y bore yma. Mae'n eglwys hynafol bach hyfryd (o'r 11G dwi'n meddwl). Nid yw'r llun uchod yn rhoi telyngdod iddo (do it justice?). Mae'n cuddio rhwng dau stryd ac oni bai eich bod yn gwybod bod yno, byddwch yn cerdded heibio. Dyma rai lluniau oddiar Google, ond eto does dim llun do o'r tu mewn sy'n dangos y pews cam gyda ochrau isel, ac mae'r pulpud yng nghanol yr eglwys yn hyrach nag yn y blaen (sori, dwi ddim yn gyfarwydd a thermau eglwysol). Goro mynd rwan i gwrdd a Sarah a'i mam am ginio.
Diweddariad
Dwi wedi gadael Efrog rwan, ond hoffwn ychwanegu y bues i allan am fwyd (ddwywaith!) i Cafe Concerto, ac allai ddim canmol y lle digon. Mae'n agos iawn i'r Minster a thua dau ddrws i ffwrdd o'r Three Legged Mare, un o 2 dafarn Bragdy Efrog.