Deutsche Homo-Erotik, ja, ja
7.7.09
Mae'r sticer yma bron a difalanu oddi ar bostyn lamp wrth groesfan dw i'n defnyddio'n ddyddiol. Mae wedi bod yna ers i Gymru chwarae'r Almaen yn ddiweddar yn Stadiwm y Mileniwm. Dw i ddim yn gwybod os mai er ein budd ni y mae'r sticer yn yr iaith Saesneg ac nid Almaeng, neu oes gan y ffyliaid yma gyn lleied o hunan barch fel eu bod yn ystyried hwligniaid Seisnig fel eilunod ac eisiau eu hefelychu ym mhob modd posib?
Efallai mai fy sgiliau Gwglo i sy'n wael, ond pan chwiliais am Cologne Street Fighters, does fawr ddim canlyniadau heblaw am ychydig o fideos YouTube. Mae nhw mor chwerthinllyd, ac yn gasgliad o luniau camra wedi eu gosod gyda'i gilydd hefo sain cefndir o unai cerddoriaeth dawns mwya cawslyd neu ryw ganu gwerin/gwlad sy'n gwneud i arlwy Radio Cymru swnio'n hanner derbyniol. Ond os ydych yn joio sbio ar criw o lanciau penfelen heb grysau ymlaen yn esgus ymladd gyda'i gilydd, dyma'r lle i fod.Jane Davidson AC vs Mark Thomas
Un elfen o'r daith yw bod y gynulleidfa yn cael cyfle o flaen y sioe ac yn ystod yr egwyl i gynnig polisi ar gyfer maniffesto newydd, yna ar ddiwedd pob sioe bydd un polisi newydd yn cael ei ddewis a'i ychwanegu at y maniffesto. Ar ddiwedd ei daith, bydd Mark Thomas yn mynd ati i weld pa mor ymarferol yw pob polisi (ddim o gwbl yn achos rhai!) ac yn ceisio eu gwireddu.
Mae eisoes wrthi'n ceisio gwireddu polisi buddugol gig Huddersfield, sef bod rhaid i Margaret Thatcher dalu am ei hangladd ei hun. Gan mai'r Frenhines sy'n penderfynu (as if!) pwy sy'n cael angladd gwladol neu beidio, mae cardiau post ar gael i unigolion ddanfon ati yn gofyn iddi hi beidio gorfodi cymdeithas i dalu am angladd rhywun sydd ddim/nad oedd yn credu bod y fath beth a chymdeithas yn bodoli.
Un cwyn bach am ei sioe, ac efallai bod o ond i'w ddisgwyl gan ffigwr o'r chwith Brydeinig, ond doedd ei sioe ddim wedi cymeryd i ystyriaeth y deimensiwn Gymreig (heblaw am ddefnyddio acen y Cymoedd pob tro roedd o'n dynwared pobl o Gaerdydd). Cododd dau beth:
- Cynnig i ddod o hyd i anthem 'genedlaethol' newydd, gan bod God Save the Queen yn anaddas i 'ni Brydeinwyr' gweriniaethol. Wnaeth neb ei atgoffa bod gyda ni anthem yn barod.
- Yn un o'r sioeau blaenorol, y polisi buddugol oedd: To create a measure for politicians performance along the lines of school SATs - sy'n syniad ardderchog ( i raddau mae modd mesur perfformiadau yn barod drwy TheyWorkForYou). Yn ystod yr egwyl, dyma rhywun yn 'dob in' (geiriau Mark Thomas) bod Jane Davidson yn y gynulleidfa. Yn amlwg doedd o ddim am golli'r cyfle i dynnu coes gwleidydd, a dyma fo'n bygwth rhoi prawf SATs iddi - ond hi gafodd y gair olaf drwy ei ateb yn ôl a dweud ei bod hi wedi eu diddymu yng Nghymru!
Labels: caerdydd, comedi, gwleidyddiaeth
Yfed tu allan i'r bocs
29.6.09

Ar y dydd Sul es i ac roedd ychydig tawelach na'r diwrnod cynt o beth dw i'n ddeall, ond roedd llwyfan bach i'r bandiau, bwyd cartref hyfryd (burgers cig a llysieuol, salads ac amryw o gacs) ac wrth gwrs o'r diwedd ces flasu'r cwrw. Anghofiais fynd i'r peirant twll-yn-wal ar y ffordd yno, felly cael a chael oedd hi ond blasais y tri cwrw oedd ar gael, sef math o Pilsnser, cwrw Bafaraidd a fy ffefryn Chocolate Wheat Beer. Dw i'n meddwl mod i wedi perswadio Sarah y byddai poteli o'r rhain yn anrheg addas i ben-blwydd ei thad yn 65! Roedd y cwrw i gyd yn neis iawn, ac mae mae £2 y botel (am un maint 660ml) yn rhesymol iawn. Dw i'n hoffi eu polisi o ddychwelyd y poteli hefyd:
In an attempt to promote our ethical standards for a cleaner and greener world, we are pleased to introduce a bottle return policy. Simply return your empty bottles (rinsed), and we will refund you £1 cash for every 6 bottles returned. It’s the beer that keeps on giving you might say!Ar hyn o bryd, mond yn mariau Gwdihw a Cwtsh mae modd prynnu'r cwrw.
Iwerddon fel 100 person
14.6.09

If there were only 100 people in Ireland, 55 of them would be speaking only English (Coch), 39 of them would be speaking mainly English, and occasionally Irish (Glas), 2 of them would be speaking mainly Irish (Gwyrdd) and one would be speaking Polish. Three would be speaking other languages.
Michal Boleslav Mechura collected these and other data from the Irish Census 2006, and crafted them into a few interesting cartograms.
Many thanks to him for sending in this map. Visit his website here for more, reflecting immigration, religion and residence intrapolated (if that’s the right word) from Republic of Ireland’s 4.24 million actual residents (Census 2006) to only 100 representative ones.
-Europe Beyond ASCII - Pa wledydd sy'n defnyddio pa ffontiau/ysgrif
-City Maps As A Rorschach Test - Faint o dir mae dinasoed o wahanol feintiau poblogaeth yn eu gorchddio
-The Population of China’s Provinces Compared - Cymharu poblogaeth taleithiau Tseina gyda phoblogaeth gwledydd eraill.
Mapumental - mae o'n...mental?
9.6.09
- pa mor gyflym gellir cyrraedd y gwaith yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus
- ble mae'r prisiau tai rhataf
- ac yn olaf ble mae'r golygfeydd harddaf
Dyma eisamplau wedi ei selio ar fy swyddfa i yng nghanol Caerdydd
Labels: mapumental mysociety
Unrhyw un yn defnyddio WordPress?
25.5.09
Gan bod tipyn o wefannau a blogiau Cymraeg yn defnyddio WordPress erbyn hyn, bues i mor wirion ag awgrymu ar wici'r digwyddiad bod sesiwn yn cael ei gynnal ar leoleiddio.
SON AM GAMGYMERIAD.
Mae sesiwn am leoleidido wedi ei neilltuo ar gyfer y bore Sul, ac yn ôl Carl, fi sy'n ei arwain! I ddweud y gwir, prin iawn ydy fy mhrofiad i o WordPress, er dw i am drio gosod blog/gwefan yn defnyddio'r meddalwedd rhwng rwan a'r gynhadledd ac hefyd ceisio gosod y ffeiliau Cymraeg.
Fel mod i ddim yn edrych fel prat llwyr ar y diwrnod, oes gyda rhywun unrhyw sylwadau ar ddefnyddio WordPress (.org neu .com), yn benodol ynglŷn a'r fersiynnau Cymraeg?
Gwell fyth os fyddai chi'n dod i'r sesiwn a chymryd rhan. Mae tocyn ar gyfer y dau ddiwrnod yn costio £35 (£25 os archebwch chi cyn Mai 31ain). Dw i eisoes wedi prynu tocyn, ond ddim yn siwr os byddaf yn mynd ar y dydd Sadwrn, felly buaswn yn ystyried ei rannu â rhywun.
Labels: caerdydd, cardiff, cymraeg, lleoleiddio, wordcampuk, wordpress
Golwg 360
17.5.09
Hyd yn oed gyda'r grant, rhaid derbyn na fydd gan y gwasanaeth byth yr un math o adnoddau a'r papurau mawrion ond cefais fy synnu pa mor fyr ac arwynebol ydy'r erthyglau. Os rhywbeth, maen nhw'n fyrrach na rhai y BBC. Yn ôl Vaughan Roderick, esboniad Dylan Iorweth am hyn oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng y wefan a chylchgrawn Golwg. Wel, i mi, gan bod erthyglau cylchgrawn Golwg yn rhai arwynebol iawn ar y cyfan, yna dylai'r rhai ar y wefan fod yn fwy swmpus a gyda mwy o sylwedd, nid y ffordd arall rownd. Dyma i chi'r erthygl cyntaf i ymddangos ar y wefan am fy nghlwb pêl-droed i, CPD Wrecsam, yn ei chyfanrwydd:
Dylai clybiau pêl-droed fel Wrecsam gael mwy o arian er mwyn adlewyrchu’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned.
Dyna farn gweinidog diwylliant yr wrthblaid yn San Steffan, a fu’n ymweld â’r clwb a’n siarad gyda’i gyfarwyddwyr ddoe.
Dywedodd bod angen cydnabod y budd y mae clybiau bychain yn ei gael ar y gymuned.
“Mae’n sicr yn rhywbeth y byddwn i’n siarad gyda’r FA amdano,” meddai.
Er ddim yn ffantastig o ddeniadol, fy argraff cyntaf o edrychiad y hafan oedd ei fod yn 'lan' iawn, ond fel sydd wedi eu nodi'n barod ar ambell bost ar Metastwnsh, mae yna amryw o ddiffygion, gyda rhai ohonynt yn rhai sylfaenol dros ben. Wna i ddim eu hailadrodd i gyd, ond dyma'r rhai sydd wedi fy nharo i:
Does dim RSS. Dyma yn fy marn i yw'r gwendid mwyaf, ac mae'n anfaddeuol nad ydy gwefan newyddion yn 2009 yn darparu porthiant RSS. Mae'n ei wneud yn anodd i unigolyn wybod pryd mae'r wefan wedi ei diweddaru, ac hefyd dw i'n siwr byddai blogwyr Cymraeg yn fodlon gosod RSS y wefan (at adran a fyddai o ddiddordeb iddyn nhw) ar eu blog.
Cofrestru. Does dim esboniad o fanteision cofrestru gyda'r wefan. Dw i wedi ceisio ddwywaith gyda dau gyfeiriad e-bost gwahanol heb fawr o lwc - efallai mai fi sy'n dwp.
Digwyddiadau. Mae'r adran Calendr yn syniad da, yn enwedig y gallu i chwilio yn ôl lleoliad, dyddiad a math o ddigwyddiad, ond mae edrychiad y peth yn reit difflach. Byddai defnydd o Googlemaps neu tagio yn well na dewislen (dw i'n casau mynd i chwilio am drama yn Dinbych/Rhuthun mond i ffeindio allan does yna ddim un.) Hefyd, mae'r lleoliadau braidd yn random. Am ryw reswm mae 'Llantrisant a Bro Morgannwg' wedi eu gosod â'u gilydd, er bod Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf, ac mae yna ddewis am 'Cymoedd Gwent' ond hefyd mae yna 'Blaenau Gwent' a 'Cwmbran, Pontypwl'. Wrth gwrs nid pawb sy'n meddwl yn ôl ffiniau siroedd 1994, ond byddai'n well cadw rhyw fath o gysondeb.
Eto petai modd cael RSS i ddigwyddiadau mewn ardal penodol, os oes gan y bapur bro neu gyngor tref/cymuned leol wefan, gallant fod a rhestr ready made o ddigwyddiadau ar eu gwefan, a fyddai yn ei dro yn gallu gyrru traffig yn ôl at wefan golwg.
Dyluniad a dolenni hysbysebion. Er mor fawr ydy rhai o'r blychau hysbysebu, dw i ddim yn meddwl ey bod yn obtrusive o gwbl i'r darllenwr, sy'n beth da. Ond tydy rhai o'r dolenni banner ar y top ddim yn arwain ar wefannau. Efallai mai dewis yr hysbysebwr yw hun, ond dw i'n synnu na fyddai Calon Wen eisiau dolen i'w gwefan nhw. Hefyd, mae gormod o destun a hwnnw'n rhy fan i'w ddarllen yn y blychau ochr dde, eto gall fod mai bai yr hysbysebwr yw hyn, ond dylai Golwg bwyntio allan iddynt nad yw ail ddefnyddio graffeg poster yn addas i hysbyseb ar-lein.
To Bach. Dw i ddim yn siwr os mai nam technegol ta dynol yw hyn, achos mae to bach yn ymddangos yn yr erthygl uchod am Wrecsam, ond does dim un yn yr erthygl yma am y coc-oen Chris Bryant.
Mae'r post yma yn hynod o negyddol, dw i'n cyfaddef, ond dw i'n gobeithio os caiff ei ddarllen gan staff Golwg y byddant yn ei dderbyn fel beirniadaeth adeiladol y gallant ei ddefnyddio i wella'r wefan. Dw i ddim wedi mynd mor bell ag ail-ddylunio'r wefan iddyn nhw (fel mae Dafydd wedi wneud!), ond yn ei ffurf presenol, dw i ddim yn ei weld y math o wefan y byddaf yn gweld eisiau ail ymweld â fo, ac os na fydd pobl yn ymweld â'r wefan yna mae'n annhebygol y bydd yn cael unrhyw nawdd pellach yn y dyfodol.
Labels: golwg











