<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener("load", function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <iframe src="http://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID=9291287&amp;blogName=Gwenu+dan+Fysiau&amp;publishMode=PUBLISH_MODE_BLOGSPOT&amp;navbarType=BLUE&amp;layoutType=CLASSIC&amp;searchRoot=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search&amp;blogLocale=en_GB&amp;homepageUrl=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/&amp;vt=-4875363306407869682" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" frameborder="0" height="30px" width="100%" id="navbar-iframe" allowtransparency="true" title="Blogger Navigation and Search"></iframe> <div></div>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Fy meirniadaeth eisteddfodol mewn print (a rwan ar-lein)

17.8.10

Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i'w ddefnyddio a.y.y.b.

Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.

Dyma un o wendidau'r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo'n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy'n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau. Gan mod i mor vain, es i'r llyfrgell ddoe i weld fy meirniadaeth mewn print, a sylwais bod testunau Eisteddfod 2011 allan yn barod, ond does dom sôn am hyn y y wasg, mewn hysbysebion, ar gyfrif Twitter yr Eisteddfod nac ar adran newyddion eu gwefan hyd yn oed..

Mae teitl y gystadleuaeth a'r feirniadaeth islaw:
Blog gan unigolyn yn cynnwys o leiaf tri mewnbwn, dim mwy na 300
gair yr un:
Lefel Agored

BEIRNIADAETH RHYS WYNNE

Cafwyd dim ond tri chynnig i’r gystadleuaeth hon a dau ohonynt gan yr un person. Efallai mai dryswch ynglŷn ag enw’r gystadleuaeth sy’n gyfrifol am y nifer isel yma, oherwydd beth yw blog ond cyfnodolyn ar-lein (daw’r enw o’r Saesneg, ‘web log’) ac nid darn o ysgrifen ar bapur. Cyflwynwyd y tri darn o waith ar ffurf dyddiadur, a’r tri yn ymwneud a theithiau y bu’r awdur arnynt.

Collen Fach: Roedd ‘AR y gwibdaith I Bortmeirion’ yn adrodd hanes gwibdaith o Sir Benfro i Bortmeirion a gafodd ei drefnu gan y Fenter Iaith leol. Mwynheais ddarllen am y daith gan fod y darn yn llawn disgrifiadau manwl ac yn fy atgoffa o wibdeithiau tebyg rwyf innau wedi bod arnynt. Yn anffodus, roedd nifer o wallau sillafu a chamdeipio, rhywbeth sy’n hawdd i’w hosgoi drwy ddefnyddio gwirydd sillafu. Roedd yna un neu ddwy idiom Saesneg wedi eu trosi’n anghywir; ‘ar gyrhaeddiad’ yn hytrach na ‘wedi cyrraedd’, a hefyd ‘o’r cwrs’ yn lle ‘wrth gwrs’ - ond fe ddaw hyn gydag ymarfer.

Fy mrawd: Dyma hanes taith Fy mrawd wrth iddo/iddi ymweld â dinas Belfast am dridiau. Nid ydym yn cael gwybod beth yn union yw diben yr ymweliad, ond o ddarllen rhwng y llinellau, dw i’n dyfalu taw cerddor yw Fy mrawd. Dros dri chofnod, un ar gyfer pob diwrnod o’r ymweliad, cawn ein cyflwyno i sawl rhan o ddinas Belfast ac ambell i gymeriad mae Fy mrawd yn cwrdd â nhw - sawl un yn bobl adnabyddus ac yn gysylltiedig â’r Trafferthion mewn un ffordd neu’r llall.
Ychydig iawn o wallau sydd, ac unwaith eto byddai gwirydd sillafu wedi mai ‘Dulyn’ yw’r sillafiad cywir, ac nid ‘Dulun’. Byddai’n ddiddorol gweld cofnod blog ar gyfer y daith hon, gan y byddai modd wedyn rhoi dolen at wefannau eraill i roi mwy o gefndir (e.e., ni esboniwyd mai gŵyl gerddorol yw Féile ân Earraigh).

Collen Fach
: Dyma ail gais Collen Fach, ac yn ‘Ysgol Pasg - Amser Arbennig’ cawn hanes yr awdur yn mynychu Ysgol Undydd yn y coleg lleol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd cymryd mantais o bob cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ac adolygu beth a ddysgwyd yn ystod gwersi arferol. Cawn wybod pa fath o ymarferion sy’n cael eu gwneud ar gwrs penwythnos, a hefyd pwy arall o ddosbarth Collen Fach sy’n manteisio ar y gwersi ychwanegol hyn (neb y tro hwn, er mae digon o ddysgwyr eraill yno.) Unwaith eto, mae ambell enghraifft o gamdeipio a chamsillafu yn y darn hwn.

Dw i am roi’r wobr gyntaf i Fy mrawd. Nid am safon uchel a chywirdeb y Gymraeg, ond hefyd gan fod gan Fy mrawd y gallu i adrodd stori mewn ffordd mor ddarllenadwy. Diolch i’r ddau ymgeisydd.
Nid clod ffug yw'r uchod, mi roedd darn buddugol Fy mrawd (Les Barker o Fwlchgwyn, ger Wrecsam) yn wirioneddol ddifyr. Digwydd i mi sylwi heddiw bod blog Golwg 360 hefyd wedi cyhoeddi darn buddugol y gystadleuaeth ar gyfer trigolion y Wladfa. Oes rhywun yn gwybod am waith buddugol arall sydd wedi ei gyhoeddi ar lein?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:45 PM | dolen | 5 sylw |