<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener("load", function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <iframe src="http://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID=9291287&amp;blogName=Gwenu+dan+Fysiau&amp;publishMode=PUBLISH_MODE_BLOGSPOT&amp;navbarType=BLUE&amp;layoutType=CLASSIC&amp;searchRoot=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search&amp;blogLocale=en_GB&amp;homepageUrl=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/&amp;vt=-4875363306407869682" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" frameborder="0" height="30px" width="100%" id="navbar-iframe" allowtransparency="true" title="Blogger Navigation and Search"></iframe> <div></div>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



ydy Ceidwardwyr Gorllewin #Caerdydd yn ceisio cam arwain pobl?

5.4.10

Mae'r tafelnni etholiadol yn dechrau cyrraedd, (rhai ailgysylltu'r scanner a'u uwchlwytho at The Straight Choice), a dwi newydd dderbyn y trydydd un gan Geidwadwyr Gorllewin Caerdydd, a'r ail un uniaith Saesneg.

Y prif bwnc ar y daflen yw'r NHS a beth mae David Cameron am wneud iddo ar ôl yr etholiad, er fod o'n fater sydd wedi ei ddatganoli. Dw i'n cymeryd bod nhw'n ymwybodol o hyn, ond falle'n gobeithio nad yw'r etholwyr twp yn deall na fydd gan Aelodau Seneddol ddim dylanwad ar bolisiau iechyd tng Nghymru.

Yn ail, mae'r ymgeisydd yn dweud ei bod yn byw yn Riverside, er mod i'n gwybod ei bod hi'n byw ym Mhontcanna. Pam sgwn i?

Gyda'r holl sôn wleidyddion yn ceisio cam-arwain a thwyllo'r cyhoedd, basech chi'n disgwyl i ddarpar Aelod Seneddol geisio dangos ei bod hi'n wahanol. O wel, mwy o'r un peth felly.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:38 PM | dolen | 0 sylw |

Pethe da ar S4C (nid cofnod ffwl Ebrill hwyr mo hwn) a'r genre llyfrau teithio Cymraeg.

3.4.10

Gyda chymaint o raglenni angrhedadwy o sâl yn ymddangos ar S4C ar hyn o bryd (Dathlu a Cyfnewid e.e.) mae'n braf gweld Pethe, sy'n trafod, wel, y Pethe, ond nid mewn ffordd hen ffasiwn. Mae ganddyn nhw wefan reit da, sydd a rhestr (anghyflawn) o hen eitemau ac mae blog sy'n cael ei ddiweddaru'n reit cyson. Maen nhw hefyd wedi creu cyfrifon Flickr a Vimeo, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio am yr rhain.

Roedd rhifyn wythnos yma werth ei weld jyst am yr erthygl llysenwau - roedd rhai am drigolion Pesda'n uffern o ddoniol.

Un eitem wnes i fwynhau'n fawr oedd un am Lyfrau Taith T. Ifor Rees. Yn yr eitem maen nhw'n trafod traddodiad o lyfrau teithio Cymraeg. Mae llyfrau teithio (travel writing) a thywyslyfrau (guidebooks) yn ddau beth gwahanol, ond dw i ddim yn meddwl bod yna ddewis mawr o'r ddau fath yn Gymraeg. Mae llyfrau T. Ifor Rees am nifer o deithiau a fu arnynt ar draws de America yn hanner cynta'r 20fed ganrif tra'n lysgynhenad i Brydaun yn y rhanbarth. Dw i eisoes wedi prynu un o'i lyfrau yn ail-law drwy Amazon, ond heb ei ddarllen eto.

Mae gyda fi ddau dywyslyfr Cymraeg, Y Wladfa yn dy boced, a Iwerddon:Llawlyfr teithio i'r Cymry Cymraeg. Liciwn i ddarllen Pobl Drws Nesa - Taith fusneslud drwy Iwerddon a Taith i Awstralia. Yn ogystal a llyfrau Bethan Gwanas a Diolch i 'Nhrwyn gan Arwel Rocet Jones, all rhywun feddwl am un rhyw lyfrau teithio neu thywyslyfrau eraill Cymraeg?
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:36 AM | dolen | 6 sylw |