<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener("load", function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <iframe src="http://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID=9291287&amp;blogName=Gwenu+dan+Fysiau&amp;publishMode=PUBLISH_MODE_BLOGSPOT&amp;navbarType=BLUE&amp;layoutType=CLASSIC&amp;searchRoot=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search&amp;blogLocale=en_GB&amp;homepageUrl=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/&amp;vt=-4875363306407869682" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" frameborder="0" height="30px" width="100%" id="navbar-iframe" allowtransparency="true" title="Blogger Navigation and Search"></iframe> <div></div>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



MicroBEER Festival 2009: 1af ac 2ail o Awst, Caerdydd

27.7.09

Os na fydda i'n gorfod gweithio y dydd Sadwn hwn (mae mab y bos yn sâl gyda 'ffliw' ar hyn o bryd!) dw i'n gobeithio mynd i hwn.

Os ydych mewn band sy'n chwarae cerddoriaeth reit chilled a ddim wedi mynd i'r Eisteddfod eto, danfonwch e-bost gyda dolen at eich MySpace at Artisan Brewing Co.










MicroBEER Festival 2009

1st & 2nd August 2009

Artisan Brewing Co.in conjunction with the Kings Road Art Studios is pleased to announce the second follow-on MicroBEER Festival

Starting 10am Saturday (12noon Sun)

Market Stalls, Open Studios, Live Music, BBQ and specialty beers on tap.

Sunday is a little more relaxed with beer flowing, music throughout the day, home made chilli beef burgers from the BBQ.

Join us... entry is free


Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 4:58 PM | dolen | 1 sylw |

Hyrwyddor digwyddiadau'r Eisteddfod

21.7.09

Mae'n debyg na fydda i'n gallu mynd i'r Eisteddfod eleni, ac felly byddaf yn colli allan ar Gorsedd y Gîcs ar y dydd Iau a nifer o bethau gwych eraill mae'n siwr. eleni fydd yr Eisteddfod cyntaf ble bydd twitro'n wirioneddol boblogaidd, felly bydd yn werth dilyn #eisteddfod09 yn ystod yr wythnos i weld beth yw'r diweddaraf.

Newydd weld map handi iawn isod gan Rhys Llwyd (sy'n gwneud i ymdrech ar fap gan y BBC edrych yn so 1990's!)


View Eisteddfod 2009 in a larger map

Ond beth bod yn bygio fi ers rhai blynyddoedd yw pa mor anodd - na amhosib yw dod o hyd i wybodaeth am y gwanaol ddiwyddiadau sy'n digwydd ar y Maes. Rhiad i chi rywsut fod in the know gyda phob sefydliad i fod ag unrhyw siawns o wybod o flaen llaw am unrhywbeth.

Sylwais bod defnyddiwr Facebook (pawb yn cofio'r wefan?) o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi creu grŵp o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau. Mae 674 aelod i'r grŵp, ond dw i ddim yn siwr os os yw'r Eisteddfod yn gwybod beth i wneud efo'r grŵp.
Danfonais neges at fo neu hi heddiw, ac mae wedi cytuno i ychwnaegu unrhyw ddigwyddiau at y grŵp a'u danfon at yr aelodau i gyd.
Manteisiwch ar y cyfle, ac i wneud pethau'n haws i weinyddwr y grŵp, danfonwch wybodaeth yn y fformat canlynol:

Enw'r Digwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad byr:
Math o Ddigwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad:
Dyddiad ac amser dechrau:
Dyddiad ac amser gorffen:
Lleoliad (gofynnol):
Stryd:
Dinas:
Ffôn:
Ebost:

(Nodyn i'r Eisteddfod - plis ticiwch y blwch ar waelod yr ail dudalen sy'n dweud: Hysbysebu - Dangos y digwyddiad hwn mewn canlyniadau chwilio)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:43 PM | dolen | 0 sylw |

Deutsche Homo-Erotik, ja, ja

7.7.09

Os oes yna un peth yn fwy trist na gwneud twat o'ch hun drwy fynychu gemau pêl-droed jyst er mwyn achosi helynt ac ymddwyn fel plant, yna gwneud sticeri bach i gyd fynd â'ch criw ydy hynny (gweler isod).

Mae'r sticer yma bron a difalanu oddi ar bostyn lamp wrth groesfan dw i'n defnyddio'n ddyddiol. Mae wedi bod yna ers i Gymru chwarae'r Almaen yn ddiweddar yn Stadiwm y Mileniwm. Dw i ddim yn gwybod os mai er ein budd ni y mae'r sticer yn yr iaith Saesneg ac nid Almaeng, neu oes gan y ffyliaid yma gyn lleied o hunan barch fel eu bod yn ystyried hwligniaid Seisnig fel eilunod ac eisiau eu hefelychu ym mhob modd posib?Efallai mai fy sgiliau Gwglo i sy'n wael, ond pan chwiliais am Cologne Street Fighters, does fawr ddim canlyniadau heblaw am ychydig o fideos YouTube. Mae nhw mor chwerthinllyd, ac yn gasgliad o luniau camra wedi eu gosod gyda'i gilydd hefo sain cefndir o unai cerddoriaeth dawns mwya cawslyd neu ryw ganu gwerin/gwlad sy'n gwneud i arlwy Radio Cymru swnio'n hanner derbyniol. Ond os ydych yn joio sbio ar criw o lanciau penfelen heb grysau ymlaen yn esgus ymladd gyda'i gilydd, dyma'r lle i fod.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:36 AM | dolen | 0 sylw |

Jane Davidson AC vs Mark Thomas

Es i wylio Mark Thomas yn y Sherman neithiwr (mae o yno heno hefyd, ac yn Aberhonddu yfory). Enw ei daith ydy Its the Economy, Stupid!. Doedd y sioe yma ddim wedi ei ffocysu cymaint ar un testun o'i chymharu a'i daith diwethaf oedd yn canolbwyntio ar y diwydiant arfau, ond roedd yn lot o hwyl.

Un elfen o'r daith yw bod y gynulleidfa yn cael cyfle o flaen y sioe ac yn ystod yr egwyl i gynnig polisi ar gyfer maniffesto newydd, yna ar ddiwedd pob sioe bydd un polisi newydd yn cael ei ddewis a'i ychwanegu at y maniffesto. Ar ddiwedd ei daith, bydd Mark Thomas yn mynd ati i weld pa mor ymarferol yw pob polisi (ddim o gwbl yn achos rhai!) ac yn ceisio eu gwireddu.

Mae eisoes wrthi'n ceisio gwireddu polisi buddugol gig Huddersfield, sef bod rhaid i Margaret Thatcher dalu am ei hangladd ei hun. Gan mai'r Frenhines sy'n penderfynu (as if!) pwy sy'n cael angladd gwladol neu beidio, mae cardiau post ar gael i unigolion ddanfon ati yn gofyn iddi hi beidio gorfodi cymdeithas i dalu am angladd rhywun sydd ddim/nad oedd yn credu bod y fath beth a chymdeithas yn bodoli.

Un cwyn bach am ei sioe, ac efallai bod o ond i'w ddisgwyl gan ffigwr o'r chwith Brydeinig, ond doedd ei sioe ddim wedi cymeryd i ystyriaeth y deimensiwn Gymreig (heblaw am ddefnyddio acen y Cymoedd pob tro roedd o'n dynwared pobl o Gaerdydd). Cododd dau beth:
  • Cynnig i ddod o hyd i anthem 'genedlaethol' newydd, gan bod God Save the Queen yn anaddas i 'ni Brydeinwyr' gweriniaethol. Wnaeth neb ei atgoffa bod gyda ni anthem yn barod.
  • Yn un o'r sioeau blaenorol, y polisi buddugol oedd: To create a measure for politicians performance along the lines of school SATs - sy'n syniad ardderchog ( i raddau mae modd mesur perfformiadau yn barod drwy TheyWorkForYou). Yn ystod yr egwyl, dyma rhywun yn 'dob in' (geiriau Mark Thomas) bod Jane Davidson yn y gynulleidfa. Yn amlwg doedd o ddim am golli'r cyfle i dynnu coes gwleidydd, a dyma fo'n bygwth rhoi prawf SATs iddi - ond hi gafodd y gair olaf drwy ei ateb yn ôl a dweud ei bod hi wedi eu diddymu yng Nghymru!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:19 AM | dolen | 0 sylw |