<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener("load", function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <iframe src="http://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID=9291287&amp;blogName=Gwenu+dan+Fysiau&amp;publishMode=PUBLISH_MODE_BLOGSPOT&amp;navbarType=BLUE&amp;layoutType=CLASSIC&amp;searchRoot=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search&amp;blogLocale=en_GB&amp;homepageUrl=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/&amp;vt=-4875363306407869682" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" frameborder="0" height="30px" width="100%" id="navbar-iframe" allowtransparency="true" title="Blogger Navigation and Search"></iframe> <div></div>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yfed tu allan i'r bocs

29.6.09

Roeddwn wedi darllen am Artisan Brewery o Gaerdydd mewn rhifyn o Buzz ond heb erioed flasu'r cwrw. Diolch i Brew Wales, dyma osgoi trychineb ar y penwythnos, sef beth fyddai wedi bod petawn wedi methu Meicro Ŵyl Gwrw lleol (aeth ebost o restr postio Artisan i fy mlwch spam).

Ar y dydd Sul es i ac roedd ychydig tawelach na'r diwrnod cynt o beth dw i'n ddeall, ond roedd llwyfan bach i'r bandiau, bwyd cartref hyfryd (burgers cig a llysieuol, salads ac amryw o gacs) ac wrth gwrs o'r diwedd ces flasu'r cwrw. Anghofiais fynd i'r peirant twll-yn-wal ar y ffordd yno, felly cael a chael oedd hi ond blasais y tri cwrw oedd ar gael, sef math o Pilsnser, cwrw Bafaraidd a fy ffefryn Chocolate Wheat Beer. Dw i'n meddwl mod i wedi perswadio Sarah y byddai poteli o'r rhain yn anrheg addas i ben-blwydd ei thad yn 65! Roedd y cwrw i gyd yn neis iawn, ac mae mae £2 y botel (am un maint 660ml) yn rhesymol iawn. Dw i'n hoffi eu polisi o ddychwelyd y poteli hefyd:
In an attempt to promote our ethical standards for a cleaner and greener world, we are pleased to introduce a bottle return policy. Simply return your empty bottles (rinsed), and we will refund you £1 cash for every 6 bottles returned. It’s the beer that keeps on giving you might say!
Ar hyn o bryd, mond yn mariau Gwdihw a Cwtsh mae modd prynnu'r cwrw.
postiwyd gan Rhys Wynne, 6:55 PM | dolen | 0 sylw |

Iwerddon fel 100 person

14.6.09

Dw i wedi tanysgrifio i ffrwd blog ffantastig o'r enw Strange Maps. Fel mae'r enw'n awgrymmu, mae'n gasgliad o fapiau anarferol hen a newydd, yn aml ble mae'r dylunydd yn defnyddio'r ddelwedd i gyfleu negeseuon gleidyddol a/neu chymdeithasol. Mae'r un diweddaraf yn cyfleu natur ieithyddol Iwerddon, wedi ei selio ar y cyfrifiad diwethaf.

If there were only 100 people in Ireland, 55 of them would be speaking only English (Coch), 39 of them would be speaking mainly English, and occasionally Irish (Glas), 2 of them would be speaking mainly Irish (Gwyrdd) and one would be speaking Polish. Three would be speaking other languages.

Michal Boleslav Mechura collected these and other data from the Irish Census 2006, and crafted them into a few interesting cartograms.

Many thanks to him for sending in this map. Visit his website here for more, reflecting immigration, religion and residence intrapolated (if that’s the right word) from Republic of Ireland’s 4.24 million actual residents (Census 2006) to only 100 representative ones.

Mae degau o fapiu eraill hoofwn eich cyfeirio atynt, ond yma un neu ddau
-Europe Beyond ASCII - Pa wledydd sy'n defnyddio pa ffontiau/ysgrif
-City Maps As A Rorschach Test - Faint o dir mae dinasoed o wahanol feintiau poblogaeth yn eu gorchddio
-The Population of China’s Provinces Compared - Cymharu poblogaeth taleithiau Tseina gyda phoblogaeth gwledydd eraill.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:44 AM | dolen | 1 sylw |

Mapumental - mae o'n...mental?

9.6.09

Ydych chi'n cofio cofnod ar Metastwnsh gan Rhodri am wefan ScenicOrNot? Gwefan gan MySociety oedd o ble gofynwyd i bobl gyfrannu at bosiect "hush, hush" drwy raddio gwahanol golygfeydd ar draws ynys Prydain.
I'r rhai ohonoch a gymerodd ran, ffrwyth eich llafur yw Mapumental. Ar hyn o bryd mae mewn BETA preifat, felly rhaid cofrestru cyn cael dolen ato (fe gewch chi un yn syth).
Yn fras, gwefan ydy o sydd wedi ei anelu'n bennaf at gynorthwyo pobl sydd ar fin symud i ardal newydd i allu penderfynu ble hoffent fyw, yn seiliedig ar dri peth:
  • pa mor gyflym gellir cyrraedd y gwaith yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus
  • ble mae'r prisiau tai rhataf
  • ac yn olaf ble mae'r golygfeydd harddaf
Gall hefyd fod o ddefnydd os ydych yn mynd ar wyliau ac eisiau gweld pa mor bell allwch chi aros tu allan i ganol dinas drud a dal fod o fewn cyrraedd y prif atyniadau.

Dyma eisamplau wedi ei selio ar fy swyddfa i yng nghanol Caerdydd

Map 1: O ble gallaf diethio i'm gwaith o fewn awr
Mapumental awr
Map 2: O ble gallaf gyrraedd y gwaith o fewn hanner awr
Mapumental hanner awr
Map 3: O ble gallaf gyrraedd y gwaith o fewn hanner awr AC lle mae prisiau tai o dan £150,000
Mapumental 150K

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:52 AM | dolen | 0 sylw |