<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener("load", function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <iframe src="http://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID=9291287&amp;blogName=Gwenu+dan+Fysiau&amp;publishMode=PUBLISH_MODE_BLOGSPOT&amp;navbarType=BLUE&amp;layoutType=CLASSIC&amp;searchRoot=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search&amp;blogLocale=en_GB&amp;homepageUrl=http://gwenudanfysiau.blogspot.com/&amp;vt=-4875363306407869682" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" frameborder="0" height="30px" width="100%" id="navbar-iframe" allowtransparency="true" title="Blogger Navigation and Search"></iframe> <div></div>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Twpdra (?) adranau'r llywodraeth a lladron penffordd y diwydiant creu gwefannau.

14.2.09

Mae Vaughan Roderick yn reit damniol o'r stori fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi comisiynu system ar gyfer llysoedd ynadon Cymru a Lloegr, ond wedi "anghofio" y byddai angen i'r system honno weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru. Ydy, mae'n gywilyddo beth bod nhw wedi anghofio (neu anghofio'n fwriadaol yn ôl sylw MH ar flog Vaughan), ond beth sy'n fy nychryn i ydy'r gost. Yn gyntaf fe gostiodd y system £444 miliwn a'r amcangyfrif i'w alluogi i ddanfon gwysi'n ddwyieithog yw £4 miliwn arall!

Tydy i ddim yn arbennigwr dylunio meddalwedd, ond i mi mae'r system danfon yn un gymharol syml. Pan dderbyniais i wys (dwyieithog!) tua 18 mis yn ôl, y cwbwl oedd o oedd taflen wybodaeth cyffredinol sydd wedi ei argraffu'n barod yn eu miloedd, gyda fy enw i, new'r llys a'r dyddiad wedi ei ychwanegu ato. I ryngwladoli'r meddalwedd er mwyn gallu gwneud hyn yn Gymraeg hefyd, a'i gyfyngu i bobl sy'n byw yng Nghymru, siawns mai dim ond ychwanegu colofn arall, neu 'querry' côd post at fas-data sydd angen.

Mae Vaughan yn gorffen gyda;
Dyw "anghofio" ddim yn esgus digon da. Mae hwn yn fethiant llwyr wrth gyflawni dyletwydd sylfaenol. Mae hynny'n haeddu ymchwiliad llawn gyda'r rheiny oedd yn gyfrifol yn cael eu disgyblu neu eu diswyddo.
Dw i hefyd yn meddwl bod angen disgyblu ac addysgu pwy bynnag oedd yn gyfrifol, yn gyntaf am eu dyletswydau at siaradwyr Cymraeg, ond yn ail am sut i fod yn gall mewn proses caffael.

Dylid hefyd mynnu gan y cwmni sy'n gwneud y gwaith eu bod yn dangos sut maen nhw wedi cyrraedd y ffigwr o £4 miliwn am y gwaith ychwanegol. Dw i'n meddwl eu bod yn cymryd y piss, i fod yn garedig - byddwn i hyd yn oed yn mynd mor bell a dweud eu bod yn euog o dwyll.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 AM | dolen | 2 sylw |

SNP a'r teulu brenhinol

Fel y gwyddoch mae'n siwr, cewch chi ddim cefnogwr mwy slog i frenhiniaeth Lloegr na fi, felly gwirionais yn lan o weld erthygl yn y Guardian an ail wampiad gwefan Y frenhiniaeth.

Un nodwedd newydd defnyddiol yw map yn dangos ble bydd ymweliadau nesaf y teulu breintiedig - felly bydd digon o rybudd gyda chi i brynu wyau.

Mae rhai tudalennau wedi eu trosi i'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban - sgwn i beth mae Alex Salmond yn feddwl o'r llun canlynol ar ben y dudalen Gaeleg!


Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:32 AM | dolen | 0 sylw |

Wylit, Wylit Clewelin

8.2.09

Tra'n edrych ar MySpace Brigyn i weld os ydynt yn chwarae yng Nghaerdydd yn fuan (maen nhw, ar yr 20fed o Chwefror GIG AM DDIM), mi sylwais hefyd eu bod yn Mhontyridd ar yr 28ain. Diawcs, i'r dim meddyliais - cwpwl o beints yng Nghlwb y Bont ac yna ymlaen i'r Miwni am gig.

Ond och! O fynd i wefan y Miwni i weld y manylion, beth sydd ymalen y diwrnod/noson hwnnw yw...

..Taffyfest

Dyma ddisgrifiad o'r digwyddiad hynod yma:
Proud to be Welsh? Are we still the ‘Land of Song’? Will Wales win the Arts Grand Slam of 2009? Answers to all these questions and more will be found in our day-long celebrations on the eve of St. David’s Day. Join us for a festival of contemporary Welsh culture including dance/music/story-telling/poetry-slam/twmpath dawns and much more – and not a male voice choir or brass band in sight!

Featured performers include the great Welsh young hopes CALAN (fresh from their tour of Wales with Genticorum) and RCT based leading storyteller Megan Lloyd. We may just sneak in a Breton Bagad too.
Efallai mai fi sy'n siwr o fod yn or-sensitif (eto), ond alla i ddim dioddef y gair Taffy. I mi, enw sarhaus gan Saeson ydy o, a thra mae'r Miwni'n meddwl bod yna rywbeth ystradebol mewn corau meibion a bandiau pres, tydyn nhw'n gweld dim o'i le ar gyfeirio at eu hunain a'u cyd-Gymry fel Taffy's! Nid nhw ydy'r unig rai chwaith yn anffodus.

Alla i ddim cadarnhau bod adran hyrwyddo digwyddiadau cyngor Rhoindda Cynon Taf wedi bod yn rhoi help llaw i drefnwyr yr Oktoberfest a bydd o hyn ymlaen yn cael ei adnabod fel Jerryfest. Hefyd mae Carnifal Notting Hill o bosib yn mynd i newid ei enw i Wogfest.

Mae ffrind i mi wedi ymuno a chwmni yng Nghasnewydd sydd ynghlwm a'r diwydiant amddiffyn. Fel y gallwch ddisgywl mae llawer o gyn filwyr yn gweithio yno. Mae fy ffrind yn Sais, a soniodd pa mor ryfedd oedd hi gweithio i gwmni yng Nhymru ac un cydweithiwr yn cerdded heibio'r llall, gyda un yn dweud; "Alright Taff", a'r llall yn ateb gyda; "Alright Taff" - dim ond yng Nghymru!
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:26 PM | dolen | 3 sylw |