<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogiau galore

10.12.09

Un ffordd da o waredu'r 'euogrwydd' o beidio blogio'n rheolaidd yw drwy restru blogiau Cymraeg newydd sy'n ymddangos.

O Bell - blog DJ yn Melboure a gafodd ei eni a'i fagu yn Lloegr ond sy'n rhugl yn y Gymraeg. Cofnodion amrywiol am wleidyddiaeth, chwaraeon a diwylliant Awstralia.

Blog Guto Dafydd - Dyma yw trît, blog deallusol gyda chofnodion llawn cic, am wlediyddiaeth yn amlach na dim - er nid pob tro, ond sy'n hynod hawdd e darllen.

Storïau Tir Du (a.k.a Blog mam Guto Dafydd) - Blog Siân yw hwn, sy'n trafod pynciau tebyg i Guto. Dw i'n edrych ymlaen i weld sut mae hwn yn datblygu.

Sothach Cymru - Ychydig yn wahanol i'r uchod, ond mae'r enw'n dweud y cyfan. Blog yn dued hi fel y mai am slebs tew di-dalent Cymru (ac adolygiadau fferins).

Y Twll - Cylchgrawn ar-lein yw hwn. Dim ond dau erthygl sydd arno hyd yma, ond maent yn rhai swmpus a difyr. Mae'r ddau hefyd yn digywdd bod am bynciau arty (ffilmiau ac electronica ), ond dw i'n meddwl bod fi'n iawn i ddweud bod croeso i bobl gyfrannu erthyglau am ystod eang o bynciau.

Quixotic Quisling - Mae Carl (un o'r bois tu cefn i Sleeveface) nawr yn blogio'n Gymraeg am yn ail a chofnodion Saenseg ar ei flog hynnod ddifyr. Hei, Carl, beth am greu caregori newydd 'Cymraeg' fel bod ganddyn dy gofnodion Cymraeg eu RSS eu hunain er mwyn eu hychwnaegu at y Blogiadur?

O, a tra dw i'n cofio, mae Carl a Rhodri Nwdls (a fi sort of) yn trefnu digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith. Ewch draw i'r wiki i weld beth fydd yn digwydd a cymerwch ran.

Neb O Nebo - Blog gan Alun yn trafod lot o stwff amrywiol.

Blog Malu Cachu - Mae'r wefan eiconig yma ar fi'n cael ei hailwampio, ac mae Suw (o'r boi Carl yna eto) wedi dechrau blog Saesneg ar y cyd yn trafod dysgu Cymraeg.

Y Dysgwr Araf - Ddim yn flog newydd, ond efallai'n newydd i rai gan ddysgwr o'r canolbarth. Mae'r boi yn licio'i fiwsig Cymraeg ac yn llwyddo i fynychu ambell gig/gwyl Cymraeg er ei fod yn byw yn Llandrindod (neu rhywle felly).

Draig Wen - Blog derwydd yn Llundain

Cymry'r Canolbarth - Canolbarth lloegr hynny yw.

Off fy nhen ar draws Cymru - Go iawn dw i'n meddwl! Dw i'n dyfalu mai casgliad o bookmarks ydy hwn, ond difyr yr un fath.


Diddorol yw nodi (wel, i fi eniwe), heblaw am y tri diwetha, mae'r blogiau newydd eraill i gyd yn defnyddio WordPress.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:10 pm

3 sylw:

Diolch.. cwpl o rai newydd difyr i fi fan hyn.

Wnes i danysgrifio i flog Neb o Nebo yn Bloglines tipyn yn ôl ond y cofnod diwethaf sy'n dangos yno yw Hydref 18.

Falle mai problem Bloglines yw hwnna ond ma fe'n boendod. Dyw e ddim yn trwsio hyd yn oed wrth dynnu'r blog a ail-danysgrifio. Falle fydd rhaid ystyried defnyddio rhyw wasanaeth arall.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 9:51 pm  

Dw i'n ffeindio bod lot o ffrydiau ar fy nghyfrif Blogilines ddim yn gweithio hefyd, Morfablog a blog Carl Morris ymysg eraill.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:56 am  

Diolch am y rhestr - byddaf yn diweddaru fy "mlogrol" gyda'r rhain i gyd.

Pob hwyl!
sylw gan Blogger Tortoiseshell, 2:08 pm  

Gadawa sylw