<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Oi, Gwynfryn! Noooooooooo

28.10.09

Esgusodwch fi tra dw i'n newid i mewn i fy nghostiwm spandex ' Mr Pedant'.

Dyna welliant.

Prynnias i gopi o Golwg yr wythnos diwethaf (Hydref 15). Rhaid i mi ddeud mae yna ambell i beth reit diddordol ynddo. Mae colofn Mike Parker yn werth ei ddarllen pob tro, er alla i ddim dweud yr un peth am rai o'r colofnwyr eraill. Dau golofn a dynnodd fy sylw i yn y rhifyn yma oedd un Angharad Mair a oedd yn reit feirniadol o ddefnyddiwyr maes-e ac un gan Hywel Gwynfryn yn trafod 'hanes' blogio.

Fel y gwyddoch (neu mwy na thebyg, fel na wyddoch), mae BBC Cymru yn cynnal 5 blog Cymraeg. Mae pob un yn dra wahanol, Ar y Marc (yn trafod pêl-droed), Vaughan Roderick (gwleidyddiaeth), C2 (cerddoriaeth), Blog Cylchgrawn (y pethe) ac un Hywel Gwynfryn (malu cachu Radio Cymru-aidd, ond gyda LOT o luniau).

Mae ansawdd y gwahanol flogiau yn amrywio hefyd. Er mai pêl-droed yw fy nileit mwyaf i, credaf mai blog Ar y Marc yw'r salaf, mae'n cael ei ddiweddaru'n anghyson, ar cynnwys yn reit arwynebol. Mae blog C2 yn reit bywiog ac mae sawl cyfranwr iddo, ac mae ganddo botensial gwych i allu rhestru playslists a rhoi rhaglfas o raglenni'r dyfodol, ond am ryw reswm dw i braidd byth yn yn ei ddarllen. Mae Blog y Cylchgrawn yn cael ei ddiweddaru'n gyson , mae'r cofnodion yn amrywiol ac yn gynhwysfawr, ac eto tydy o ddim cweit at fy nant i. Un peth sy'n gyffredin am y tri yma yw does neb yn gadael sylwadau, tra ar y llaw arall blog Vaughan Roderick yn ddi-os yw y blog Cymraeg mwyaf poblogiadd o ran darllenwyr ac o ran faint sy'n gadael sylwadau, a chi'n cael yr argraff ei fod yn wir mwynhau blogio ac ymateb i sylwadau eraill, rhywbeth holl bwysig.

Ond y blog sydd wedi fy synnu i yw un Hywel Gwynfryn, mae o wedi cymryd at flogio gyda argyhoeddiad. Mae'n blogio'n rheolaidd a hefyd mae o leaif un llun gyda phob cofnod (weithiau hyd at bump).

Yn ôl at bwynt y cofnod yma. Yn ei golofn yn Golwg mae Mr G yn nodi bod y gair 'blog' yn dalfariad o 'web+log' ac mai diffiniad 'swyddogol' am flog yw
Dyddiadur personol, sy'n cynnwys sylwadau diddorol ac yn adlewyrchu diddordeb y blogar [sic]
Mae'n dilyn y dyfniad yma (ond ddim yn nodi o ble daw'r diffiniad) gyda
Felly, roedd Capten Cook yn cadw blog
Mae'n dod i'r casgliad yma dw i'n meddwl achos roedd Capten Cook yn cadw log, a'u bod nhw wedi cael eu ddigideiddio (er na nodwyd URL yn golofn) . Iesu, sôn am ddryswch.

Roedd colofn Angharad Mair yn gwneud llawer mwy o synnwyr. Teitl ei cholofn oedd Mae'n bryd rhoi gorau i'r ffug enw. Mae hi'n dechrau i ffwrdd drwy ddweud na oes ganddi ddim diddordeb yn Twitter, Facebook na MySpace, sy'n ddigon teg a rhesymol. Mae hi wedyn yn cyfeirio at stori ddiddorol (nad oeddwn i'n gyfarwydd a hi), ble wnaeth model o'r enw Liskula Cohen ennill achos llys oedd yn gorfodi Google i ddatgelu pwy oedd y person fu'n blogio'n ddienw gan gan ei galw hi'n bob math o enwau ffiaidd. Mae'n debyg bod Angharad yn gallu uniaethu a'r stori, gan iddi hefyd ysgrifennu
Mae maes-e ers blynyddoedd wedi bod yn gorlifo o sothach gwenwynig a phlentynaidd. Onid yw hi'n hen bryd i ni yng Nghymru i dyfu i fyny?
Dw i'n cytuno mai peth diflas iawn yw'r busnes yma o bobl yn mynd ar-lein yn ddienw a phostio pethau digon cas am bobl (enwog fel arfer) ac mae tipyn o hyn yn digwydd ar maes-e yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cymedrolwyr i atal/ddileu hyn. Er teimlaf bod Angharad yn lladd gormod ar y cyfrwng yn hytrach na'r cynnwys, ac hefyd rhaid cofio fe gewch chi grancs cenfigenus ymhob man mewn bywyd.

Byddai'n ddiddorol hefyd gwybod beth yw barn Angharad am golofn 'Jac Codi Baw' (nid ei enw go iawn!) yng nghefn Golwg, sydd yn yr union rifyn yn ac y mae Angharad wedi ysgrifennu'r uchod, yn nodi iddo fod yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon yr un pryd a chystadleuwyr Fferm Ffactor, a bod sawl un ohonynt wedi bod yn 'or-gyfeillgar' a'i gilydd.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:28 pm

4 sylw:

Dwi ddim wedi gweld yr eitem gan Angharad Mair ond dwi'n synnu fod ganddi groen mor denau.

Mae hi'n ffigwr gyhoeddus, yn golofnydd ac yn derbyn cyflog da o arian cyhoeddus felly fe ddylai hi allu derbyn beirniadaeth a'i wfftio neu ei anwybyddu.

Er fod nifer o ffugenwau ar maes-e, dyw ffugenw ddim yn golygu fod rhywun yn anhysbys, o reidrwydd. I unrhyw ddefnyddiwr cyson, mae hi'n weddol hawdd darganfod neu ddyfalu pwy yw unrhywun ar faes-e.

Y rheswm am hynny yw fod byd y Cymry Cymraeg mor fach a dyna'r union reswm hefyd pam fod ffugenw yn ddefnyddiol.

Ai'r ffaith ei bod hi (mae'n debyg) am ddechrau ar yrfa wleidyddol sy'n gyfrifol am y sylwadau yma - ceisio gweld pwy sydd allan yna yn ei beirniadu?

Dwi ddim yn credu mewn gwneud sylwadau maleisus am bobl ond os yw'n feirniadaeth am gymwysterau rhywun neu ei fod yn sylwadau ddychanol mae hynny'n ddigon teg.

Ac os yw hi am ddod yn wleidydd rhywbryd fe fydd hi'n gorfod derbyn sylwadau a beirniadaeth llawer mwy llym.

Efallai fod hyn yn esbonio pam fod rhywun o Tinopolis wedi bod yn gwglo 'Angharad Mair' yn aml dros y misoedd diwethaf a chyrraedd fy mlog. Er, dim ond dau sylw penodol sydd yno, a dim byd maleisus uniongyrchol - dwi'n gadael i'r darllenwr ddehongli y testun.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 11:01 pm  

Gobeithio bod hi'n gallu gwahaniaethu rhwng beiriniadaeth asylwadau maleisud, neu bydd unrhyw yrfa wleidyddol drosodd cyn iddo fo ddechrau. Hefyd yn ei holofn soniodd bod hi wedi dweud yn ystod eitem ar Wedi 7 bod hi'n meddwl bod Twitter yn wast o amser ac yn dilyn hynny bod yna lot o sylwadau 'ar Google' yn dilyn hynny yn dod o gyferiiad Aberystwyth (?) yn ei chyhuddo o beidio byw yn y byd modern.

Mae bobl yn gallu bod mor greulon....
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:02 pm  

Ie, mi bendronais i am y cyfeiriad at Aberystwyth. Dwi'n meddwl taw cyfeirio at hwn oedd hi: http://metastwnsh.com/wedi-7-yn-esbonio-twitter/ Mae'r holl sylwadau yno gyda enw y person a'u sgwennodd a dolen i'w blog. Llawer iawn ddim yn byw yn Aber! Yn ogystal mae pob un wedi rhoi digon o ffyrdd i'w hadnabod, a chyfeiriad ebost i'r wefan ei hun - name and address suppllied yn union yr un fath ag a wneir gyda cholofn lythyrau.

Byddai Cymru yn wlad hesb iawn heb sylwadau a dychan di-enw gan gylchgronnau fel Lol dros yr oesoedd. Prin yw'r bobol sy'n fodlon rhoi eu pen uwch y pared, yn arbennnig felly ym myd y cyfryngau.

Mae'r blogiau ar y BBC wedi fy nrysu innau hefyd. Yn aml does dim dolenni yn agos nac unrhyw groesbeillio ar draws y we, hyd yn oed i'w gilydd. Nid blogiau dwi'n ei weld ond colofnau. Roedd na un pwynt lle roedd na obaith i flog C2 pan fu un o'r cynhyrchwyr yn blogio a gofyn sut fyddai darllenwyr eisiau gweld C2 yn newid. Ond mae wedi newid nôl i fod yn rywbeth mae rhywun yn teimlo fod y cyflwynwyr yn gorfod wneud, heb unrhyw gynnwys gwreiddiol, dim ond hysbysebu sioeau.

Gallwn ni ddadlau hyd syrffed beth yw ystyr blog. Ddarlithiais i ar y pwnc eleni, a dwi dal ddim agosach at ddiffiniad holl-gynhwysol. Y gwir ydi bod y blogiau gwreiddiol wedi cael eu adddasu filiynau o weithiau a bod y cyfryngau prif ffrwd wedi addasu y cyfrwng ar gyfer eu defnydd eu hunain. Mae'r gair blog wedi colli unrhyw ystyr, fel mae personal homepage, neu web directory.
sylw gan Blogger Nwdls, 8:41 am  

Ers dyddiau cynnar Maes-E dwi wedi bod yn dadlau yn erbyn enwau ffug; fe gofiwch i mi ddadlau i'r byw dros fy safbwynt lawer tro. I mi mae cyd-destun dadl/safbwynt yn bwysig ac fe ddylai lywio y modd y byddw ni'n dadlau. Er enghraifft fasw ni'n llai beirniadol o fand roc gwael o wybod eu bod nhw yn eu harddegau ac newydd gychwyn ac yn troi ei gorau. Neu mewn cyd-destun mwy difrifol: mi fuaswn ni'n feddalach fy nadl yn erbyn ewthonesia o wybod mod i'n dadlau gyda rhywun sydd ar y pryd ac aelod o'i deulu'n ddifrifol wael.

Dwi wastad wedi bod o'r farn fod dadl wastad wedi ei cholli does ots pa mor dda y'i cyflwynir oni fydd hi wedi ei chyflwyno a wyneb yn hytrach na tu ol i fwgwd. Mae'r mwgwd yn peri i'r ddadl gael ei cholli'n syth yn fy ngolwg i.

Amwni fod hyn yn deillio o nghred i fel Cristion; hynny yw cymryd cyfrifoldeb dros bopeth wyt ti'n dweud a gwneud. Dros y blynyddoedd fe ges i hi'n anghywir droeon ar maes-e ond o leia fues i'n ddigon cyfrifol i roi fy enw wrth bod sylwad. Fe wnes i elynion oherwydd fy ngonestrwydd ond erbyn hyn, wedi i'r dwst setlo, y mae rhan fwyaf o bobl yn parchu fy ni-dwylledd o leiaf!

Dysgais i gael croen trwchus wrth ddweud a derbyn ymateb yn fy enw go-iawn. Dyna fydd yn rhaid i Angharad Mair wneud - daeth dyddiau cuddly candy floss S£C i ben -mae'r we wedi dod a pawb nol i level playing ground.
sylw gan Blogger Rhys Llwyd, 9:11 am  

Gadawa sylw