<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Fy enw i ydw Rhys a dw i'n gwylio Come Dine With Me

26.8.09

Dw i fel arfer yn eithafol o snobyddyddlyd pan mae'n dod i raglenni teledu, yn enwedig rhai trashy, ond allai'm stopio gwylio Come Dine With Me. Dois ar ei draws ar ryw sianel Freeview pan oedd rhaglenni'n cael eu hail ddangos. Mae'r fformat yn un da, 4/5 dieithryn yn coginio pryd tri cwrs i'w gilydd yn eu cartrefi eu hunain, ac yn marcio ei gilydd yn gyfrinachol. Nid dim ond y bwyd, ond hefyd y lletygarwch sy'n cael ei farcio ac mae'r person gyda'r marciau uchaf ar y diwedd yn cael £1,000. Ond uchafbwynt y rhaglen heb os yw sylwadau y dyn voice over, Dave Lamb.

Fel dwedais i, ailddangosiadau dw i wedi eu gwylio, ond pan gyhoeodd Sioned bod cyfres newydd ar fin dechrau, roeddwn yn edrych ymlaen.

Fel arfer mae'r criw o bobl yn dod o ddinas, tref neu ardalpenodol. Yr unig un o Gymru oeddwn wedi ei weld oedd un yng Nghaerdydd, ble roedd yna un gotsan uffernol yn tynnu pawb i'w phen.

Yn y gyfres newydd, Abertawe yw'r lle cyntaf i gynnal y nosweithiau yma, ac mae nhw wedi llwyddo dod o hyd i gystadleuwyr 'gwahanol' eto. Tro hyn, mae dwy gotsan wirion, sydd, nid yn annisgwyl, yn casau ei gilydd. Mae un yn rhedeg tafarn o'r enw'r Found Out Inn yn Dyfnant (un i'w osgoi dybiwn i!), a'r llall yn hen wrach sydd â obsesiwn gyda Dylan Thomas (i'r fath raddau ei bod wedi prynu ei gartref enedigol) ac yn mynd ymlaen ac ymlaen bod popeth Cymreig yn well na dim arall - ond yn mynnu ynganu Dylan fel Dilun, yn hytrach na Dul-ann -AAARGH! Ar ben hyn i gyda, o'r tri cyntaf sydd wedi bod wrthi nos Lun, neithiwr a heno, does dim un yn llawer o gwc chwaith.

Ta waeth, mae'n werth gwylio'r wythnos yma i weld y ffrîcs, ond fel arall mae'n gyfres reit da, a gyda phobl sy'n gallu coginio ac ymddwyn yn hanner call o leiaf.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:52 pm

4 sylw:

Dyni yn y tŷ yma yn wrth ein boddau efo'r sioe hefyd, er dim ond ychydig o'r ail-darllediadau dwi wedi eu gwylio. Rhaid i mi drio nodi amserau'r cyfres newydd. Yn yr hen gyfresi mae nhwn ymestyn y 'cystadleuaeth' dros cwpl o sioeau, os cofiaf yn iawn (sy'n dipyn o boen i berson amyneddgar!), ond yn rhai dwi wedi eu gwylio mae'r holl peth wedi ei cwpla yn yr un un raglen, fformat gwell dwi'n credu. Mae 'na fersiwn 'seleb' hefyd dwi'n meddwl, naill ai hynny neu rai o'r hen 'selebs' 'na yn gymaint ar eu lawr mae nhw'n gwneud y 'rhaglen arferol' er mwyn mynd am y £1000....
sylw gan Blogger neil wyn, 6:50 am  

Fel arfer, dim ond un cystadleuydd sydd ymlaen pob nos drwy'r wythnos, ond ie, wrth wylio'r ailddangosiadau, gallwch wylio'r 4/5 yn syth ar ol ei gilydd. Os rhywbeth mae' well felly, ond mae tua dwy awr o'ch bywyd chi'n diflannu mewn fflach wedyn.

Mae rhai o'r rhai 'selebs' wedi bod yn ddoniol iawn. Yn enwedig un pan wnaeth Dot Cotton (neu'r ddynes sy'n ei chwarae hi) gate crasio un ohonynt yn chwil gach.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:59 am  

Dw i'n mor siomedig gyda ti. Ti wedi dweud ein cyfrinach brwnt wrth pawb!
sylw gan Anonymous sarahefrog, 11:42 am  

Rhaid cyfaddef bo fi'n addicted hefyd! Mae'r criw Abertawe yn adloniant gwych.
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:57 pm  

Gadawa sylw